RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 6CYFFREDINOL
Atodol
157Dehongli’r Rhan hon
Yn y Rhan hon—
mae “adeilad crefyddol esempt” (“exempt religious building”) i’w ddehongli yn unol ag adran 156;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—
(a)
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(b)
awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(c)
cyngor cymuned;
(d)
comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru;
(e)
awdurdod tân ac achub yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
(f)
corff yng Nghymru sy’n gorff codi ardoll o fewn ystyr “levying body” yn adran 74(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41);
(g)
corff yng Nghymru y mae adran 75 o’r Ddeddf honno (ardollau arbennig) yn gymwys iddo;
(h)
cyd-fwrdd neu gyd-bwyllgor, os yw pob un o’r awdurdodau sy’n ei gyfansoddi yn awdurdod lleol o fewn paragraffau (a) i (g);
ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru;
mae i “gwarchodaeth interim” (“interim protection”) yr ystyr a roddir gan adran 79(3);
ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad gorfodi a ddyroddir o dan adran 123 neu 134 (yn ôl y digwydd);
ystyr “hysbysiad stop dros dro” (“temporary stop notice”) yw hysbysiad stop dros dro a ddyroddir o dan adran 119;
mae i “rhestru” (“listing”) a “dadrestru” (“de-listing”), mewn perthynas ag adeilad, yr ystyron a roddir gan adran 76(6);
mae i “rhestru dros dro” (“temporary listing”) yr ystyr a roddir gan adran 83(5).