RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 6CYFFREDINOL

Atodol

156Adeiladau crefyddol esempt

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod adeilad crefyddol a ddefnyddir at ddibenion crefyddol yn adeilad crefyddol esempt at ddibenion—

(a)

adrannau 83 a 84 (rhestru adeiladau dros dro);

(b)

adran 88 (gofyniad i waith sy’n effeithio ar adeilad rhestredig gael ei awdurdodi);

(c)

adran 118 (y drosedd o ddifrodi adeilad rhestredig yn fwriadol);

(d)

adran 137 (caffael adeilad rhestredig yn orfodol at ddiben ei ddiogelu);

(e)

adran 144 (gwaith brys i ddiogelu adeilad rhestredig).

(2)

At ddibenion adran 88 mae adeilad i’w drin fel pe bai’n un sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion crefyddol pe bai’n cael ei ddefnyddio at y dibenion hynny oni bai am y gwaith o dan sylw.

(3)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)

gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adeiladau crefyddol o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau (pa un ai drwy gyfeirio at ffydd grefyddol neu enwad crefyddol, defnydd a wneir o’r adeiladau, neu unrhyw amgylchiad arall) neu mewn perthynas ag adeilad penodol;

(b)

gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adeilad crefyddol cyfan neu ran o adeilad crefyddol;

(c)

darparu bod adeilad yn adeilad crefyddol esempt dim ond mewn perthynas â gwaith o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau (pa un ai drwy gyfeirio at raddau’r gwaith, y person sy’n cyflawni’r gwaith, neu unrhyw amgylchiad arall);

(d)

gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer adeiladau mewn ardaloedd gwahanol;

(e)

gwneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon.

(4)

Yn yr adran hon o ran cyfeiriadau at adeilad crefyddol—

(a)

maent yn cynnwys unrhyw strwythur neu unrhyw wrthrych artiffisial sy’n sownd wrth adeilad crefyddol neu sydd o fewn ei gwrtil;

(b)

nid ydynt yn cynnwys adeilad sy’n cael ei ddefnyddio, neu sydd ar gael i’w ddefnyddio, gan weinidog crefydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel preswylfa i gyflawni dyletswyddau’r swydd honno ohoni.