RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 6CYFFREDINOL
Pwerau mynediad
155Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gan berson bŵer i fynd ar dir a roddir gan adran 152 neu drwy warant o dan adran 154.
(2)
Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol berson sy’n arfer y pŵer mynediad yn cyflawni trosedd.
(3)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(4)
Os achosir difrod i dir neu eiddo arall—
(a)
wrth arfer y pŵer mynediad, neu
(b)
wrth wneud unrhyw arolwg at y diben y rhoddwyd y pŵer mynediad ato,
caiff person sy’n dioddef y difrod adennill digollediad oddi wrth y person a awdurdododd y mynediad.
(5)
Rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o dan is-adran (4) yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yr achoswyd y difrod (neu os achoswyd y difrod dros fwy nag un diwrnod, y diwrnod olaf y’i hachoswyd).
(6)
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn datgelu gwybodaeth a gafodd y person wrth arfer y pŵer mynediad, ac sy’n ymwneud â phroses weithgynhyrchu neu gyfrinach fasnach, at ddiben ac eithrio’r un yr awdurdodwyd y person i fynd ar y tir ato.
(7)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (6) yn agored—
(a)
ar euogfarn ddiannod, i ddirwy;
(b)
ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.
(8)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw beth a wneir yn rhinwedd adran 153(7) (mynediad ar dir y Goron).