RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 6CYFFREDINOL

Pwerau mynediad

154Gwarant i fynd ar dir

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os yw ynad heddwch wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)

bod sail resymol dros fynd ar dir at ddiben a grybwyllir yn adran 152, a

(b)

bod—

(i)

mynediad i’r tir wedi ei wrthod neu fod gwrthodiad yn cael ei ddisgwyl yn rhesymol, neu

(ii)

yr achos yn un brys.

(2)

Caiff yr ynad heddwch ddyroddi gwarant sy’n rhoi pŵer i fynd ar y tir i unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan berson a gaiff awdurdodi mynediad o dan adran 152 at y diben o dan sylw.

(3)

At ddibenion is-adran (1)(b) mae mynediad i dir i’w drin fel pe bai wedi ei wrthod os na cheir ateb i gais am fynediad o fewn cyfnod rhesymol.

(4)

Mae adran 152(9) yn gymwys i bŵer i gynnal arolwg o dir a roddir drwy warant o dan yr adran hon.

(5)

Mae gwarant o dan yr adran hon yn rhoi pŵer i fynd ar dir—

(a)

ar un achlysur yn unig, a

(b)

ar adeg resymol yn unig, oni bai bod yr achos yn un brys.

(6)

O ran person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan yr adran hon—

(a)

rhaid iddo, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan neu ar ran unrhyw berchennog ar y tir neu unrhyw feddiannydd ar y tir, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben y mynediad cyn mynd ar y tir,

(b)

caiff fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir,

(c)

rhaid iddo, os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.

(7)

Mae gwarant o dan yr adran hon yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 1 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y’i dyroddir.

(8)

Nid yw’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron.