RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 6CYFFREDINOL

Pwerau mynediad

152Pwerau i fynd ar dir

(1)

Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir i gynnal arolwg o adeilad ar y tir hwnnw neu ar unrhyw dir arall mewn cysylltiad â chynnig i restru neu ddadrestru’r adeilad.

(2)

Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod cynllunio fynd ar unrhyw dir i gynnal arolwg o adeilad ar y tir hwnnw neu ar unrhyw dir arall mewn cysylltiad â chynnig i gyflwyno hysbysiad rhestru dros dro mewn perthynas â’r adeilad.

(3)

Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir—

(a)

i gynnal arolwg o’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall mewn cysylltiad â chynnig i wneud gorchymyn o dan adran 107 (addasu neu ddirymu cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth),

(b)

i gynnal arolwg o’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall mewn cysylltiad â chynnig i wneud gorchymyn o dan adran 115 (terfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb), neu

(c)

i asesu a yw trosedd wedi cael ei chyflawni neu yn cael ei chyflawni o dan adran 91(5), 117 neu 118.

(4)

Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod cynllunio fynd ar unrhyw dir—

(a)

i benderfynu a ddylai hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi,

(b)

i arddangos copi o hysbysiad stop dros dro yn unol ag adran 119, neu

(c)

i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad stop dros dro.

(5)

Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir—

(a)

i gynnal arolwg o’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall mewn cysylltiad â chynnig i ddyroddi hysbysiad gorfodi,

(b)

i asesu â gydymffurfiwyd â hysbysiad gorfodi,

(c)

i asesu a yw adeilad rhestredig ar y tir hwnnw neu ar unrhyw dir arall yn cael ei gynnal a’i gadw mewn cyflwr priodol,

(d)

i gynnal arolwg o’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall mewn cysylltiad â chynnig i gyflwyno hysbysiad atgyweirio o dan adran 138, neu

(e)

i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad atgyweirio.

(6)

Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir—

(a)

i benderfynu a ddylai gwaith gael ei gyflawni o dan adran 144 ar gyfer diogelu adeilad ar y tir hwnnw neu ar unrhyw dir arall, neu

(b)

i gyflawni gwaith o dan yr adran honno ar gyfer diogelu adeilad ar y tir hwnnw neu ar unrhyw dir arall.

(7)

Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i gynnal arolwg ohono, neu i amcangyfrif ei werth, mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediad sy’n daladwy gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall.

(8)

Yn is-adran (7) ystyr “person awdurdodedig” yw—

(a)

swyddog o Swyddfa Brisio Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, neu

(b)

person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd).

(9)

Mae pŵer i gynnal arolwg o dir o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i chwilio a thurio i benderfynu natur yr isbridd neu i benderfynu a oes mwynau yn bresennol.