RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 3RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG
Ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig
15Declarasiynau o berchnogaeth mewn cysylltiad â heneb
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig oni bai bod un o’r declarasiynau a ganlyn a lofnodwyd gan neu ar ran y ceisydd wedi ei gynnwys gyda’r cais—
(a)
declarasiwn nad oedd unrhyw berson ac eithrio’r ceisydd yn berchennog ar yr heneb ar ddechrau’r 21 o ddiwrnodau a ddaeth i ben â diwrnod y cais,
(b)
declarasiwn bod y ceisydd wedi rhoi hysbysiad i’r holl bersonau (ac eithrio’r ceisydd) a oedd, ar ddechrau’r cyfnod hwnnw, yn berchnogion ar yr heneb, o’r pethau sy’n ofynnol gan is-adran (2) ac unrhyw reoliadau o dan is-adran (3),
(c)
declarasiwn bod y ceisydd—
(i)
yn methu â gwneud declarasiwn o dan baragraff (a) na (b),
(ii)
wedi rhoi hysbysiad i’r rhai hynny o’r personau a grybwyllir ym mharagraff (b) ac a enwir yn y declarasiwn, o’r pethau sy’n ofynnol gan is-adran (2) ac unrhyw reoliadau o dan is-adran (3), ond
(iii)
wedi methu â chanfod enwau a chyfeiriadau gweddill y personau a grybwyllir ym mharagraff (b), er iddo gymryd pob cam rhesymol i wneud hynny, neu
(d)
declarasiwn bod y ceisydd—
(i)
yn methu â gwneud declarasiwn o dan baragraff (a), a
(ii)
er iddo gymryd pob cam rhesymol i wneud hynny, wedi methu â chanfod enwau a chyfeiriadau unrhyw un o’r personau a grybwyllir ym mharagraff (b).
(2)
Rhaid i hysbysiad at ddibenion is-adran (1)(b) neu (c)(ii)—
(a)
nodi’r heneb y mae’n ymwneud â hi (gan gynnwys cyfeiriad neu leoliad yr heneb, a’i henw (os oes un)),
(b)
datgan bod cais am gydsyniad heneb gofrestredig i’w wneud mewn perthynas â’r heneb,
(c)
nodi’r person sy’n gwneud y cais (a, phan fo’r ceisydd yn gwneud cais ar ran rhywun, nodi’r person arall), a
(d)
disgrifio’r gwaith y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu pethau ychwanegol y mae rhaid eu cynnwys mewn hysbysiad.
(4)
Mae’n drosedd i berson gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio â’r adran hon—
(a)
gwneud declarasiwn y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol, neu
(b)
yn ddi-hid, wneud declarasiwn sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol.
(5)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(6)
Yn yr adran hon ystyr “perchennog” yw—
(a)
perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol, neu
(b)
tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.