RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 5CAFFAEL A DIOGELU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Cyllid ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau o ddiddordeb arbennig etc.
149Adennill grant a roddir gan awdurdod lleol
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol perthnasol yn rhoi grant o dan adran 148.
(2)
Os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o amodau a osodir wrth roi’r grant, caiff yr awdurdod adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.
(3)
Mae is-adrannau (4) a (5) yn gymwys os, yn ystod y 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y grant—
(a)
gwaredir y cyfan neu ran o’r buddiant yr oedd derbynnydd y grant yn ei ddal neu ei dal yn yr adeilad neu’r ardd y mae’r grant yn ymwneud ag ef neu â hi ar y diwrnod y rhoddwyd y grant (“y buddiant perthnasol”), a
(b)
gwneir y gwarediad drwy werthu, drwy gyfnewid neu drwy les am gyfnod o 21 o flynyddoedd o leiaf.
(4)
Os gwneir y gwarediad gan dderbynnydd y grant neu gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi rhan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff yr awdurdod lleol perthnasol adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.
(5)
Os gwneir y gwarediad gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi’r cyfan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff yr awdurdod adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth y person y rhoddwyd y rhodd iddo.
(6)
Ni chaiff awdurdod lleol perthnasol adennill symiau o dan yr adran hon sydd, gyda’i gilydd, yn fwy na swm y grant.
(7)
Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at roi buddiant i berson yn gyfeiriadau at ei roi i’r person yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac eithrio ar farwolaeth deiliad y buddiant.