RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 5CAFFAEL A DIOGELU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Cyllid ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau o ddiddordeb arbennig etc.
148Grant neu fenthyciad gan awdurdod lleol ar gyfer atgyweirio neu gynnal a chadw adeilad
(1)
Caiff awdurdod lleol perthnasol gyfrannu tuag at unrhyw wariant yr aed iddo, neu yr eir iddo, wrth atgyweirio neu gynnal a chadw—
(a)
adeilad rhestredig sydd yn ardal yr awdurdod neu yn ei chyffiniau, neu
(b)
adeilad yn ardal yr awdurdod nad yw’n adeilad rhestredig ond y mae’r awdurdod yn ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
(2)
Ar yr un pryd â gwneud cyfraniad o’r fath, caiff yr awdurdod hefyd gyfrannu tuag at unrhyw wariant yr aed iddo, neu yr eir iddo, wrth gynnal a chadw unrhyw ardd—
(a)
sy’n cael ei meddiannu gyda’r adeilad, a
(b)
sy’n cydffinio ag ef neu’n gyfagos iddo.
(3)
Caniateir i gyfraniad o dan yr adran hon gael ei wneud drwy grant neu fenthyciad.
(4)
Caiff awdurdod lleol perthnasol roi benthyciad o dan yr adran hon ar unrhyw delerau ac unrhyw amodau y mae’n penderfynu arnynt, a all er enghraifft gynnwys teler bod y benthyciad yn ddi-log.
(5)
Caiff awdurdod lleol perthnasol—
(a)
ildio ei hawl i gael ad-daliad o fenthyciad neu unrhyw log sy’n weddill, a
(b)
cytuno â’r benthyciwr i amrywio unrhyw un neu ragor o delerau ac amodau benthyciad.
(6)
Caiff awdurdod lleol perthnasol roi grant o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’n ystyried eu bod yn briodol, a all er enghraifft gynnwys amod bod rhaid i dderbynnydd y grant wneud cytundeb â’r awdurdod at ddiben sicrhau mynediad y cyhoedd i’r cyfan neu ran o’r adeilad neu’r ardd y mae’r grant yn ymwneud ag ef neu â hi.
(7)
Yn yr adran hon ac yn adran 149, ystyr “awdurdod lleol perthnasol” yw—
(a)
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(b)
awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(c)
bwrdd cydgynllunio a gyfansoddir o dan adran 2(1B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).