RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 5CAFFAEL A DIOGELU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Diogelu adeiladau rhestredig ar frys
145Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i berchennog dalu costau gwaith diogelu
(1)
Pan fo gwaith ar gyfer diogelu adeilad rhestredig wedi ei gyflawni gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru o dan adran 144, caiff yr awdurdod lleol neu (yn ôl y digwydd) Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i unrhyw berchennog ar yr adeilad rhestredig sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog dalu costau’r gwaith.
(2)
Pan fo’r gwaith yn waith i ategu neu gysgodi’r adeilad rhestredig dros dro neu’n cynnwys gwaith o’r fath—
(a)
mae’r costau y caniateir eu hadennill yn cynnwys unrhyw wariant parhaus sy’n ymwneud â rhoi ar gael y cyfarpar neu’r deunyddiau a ddefnyddir, a
(b)
caniateir rhoi hysbysiadau o dan is-adran (1) o bryd i’w gilydd mewn cysylltiad â’r gwariant parhaus hwnnw.
(3)
Mae is-adran (4) yn gymwys os yw’r perchennog, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir hysbysiad o dan is-adran (1), yn cwyno’n ysgrifenedig i Weinidogion Cymru—
(a)
bod rhywfaint neu’r cyfan o’r gwaith yn ddiangen ar gyfer diogelu’r adeilad rhestredig,
(b)
yn achos gwaith i ategu neu gysgodi adeilad rhestredig dros dro, fod y trefniadau dros dro wedi parhau am gyfnod afresymol o amser,
(c)
bod y swm a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol, neu
(d)
y byddai adennill y swm hwnnw yn achosi caledi i’r perchennog.
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
penderfynu i ba raddau y mae sail dda i gŵyn y perchennog, a
(b)
cyflwyno hysbysiad o’u penderfyniad—
(i)
i’r perchennog, a
(ii)
os rhoddwyd yr hysbysiad o dan is-adran (1) gan awdurdod lleol, i’r awdurdod hwnnw.
(5)
Rhaid i’r hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru ddatgan—
(a)
y rhesymau dros y penderfyniad, a
(b)
y swm y maent wedi penderfynu y caniateir iddo gael ei adennill.
(6)
Caiff perchennog neu awdurdod lleol y cyflwynir hysbysiad iddo o dan is-adran (4)(b), o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, apelio i’r llys sirol yn erbyn penderfyniad Gweinidogion Cymru.