RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 5CAFFAEL A DIOGELU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Rheoli, defnyddio a gwaredu adeiladau
143Rheoli, defnyddio a gwaredu adeilad a gaffaelir o dan y Bennod hon
1
Pan fo awdurdod cynllunio yn caffael adeilad neu dir arall o dan y Bennod hon, caiff wneud unrhyw drefniadau ar gyfer rheoli, defnyddio neu waredu’r adeilad neu’r tir y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben diogelu’r adeilad neu’r tir.
2
Am ddarpariaeth bellach ynghylch y defnydd o dir y mae awdurdod cynllunio yn ei gaffael drwy gytundeb o dan adran 136, gweler adrannau 232, 233 a 235 (neilltuo, gwaredu a datblygu), 242 (trechu hawliau i feddiannu) a 243 (cyd-gorff i ddal tir) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).
3
Pan fo Gweinidogion Cymru yn caffael adeilad neu dir arall o dan adran 137, cânt—
a
gwneud unrhyw drefniadau y maent yn ystyried eu bod yn briodol ar gyfer rheoli’r adeilad neu’r tir, gwarchodaeth ohono neu’r defnydd ohono, a
b
gwaredu’r adeilad neu’r tir, neu ymdrin â’r adeilad neu’r tir mewn unrhyw ffordd arall.
4
Am ddarpariaeth sy’n dileu cyfyngiadau ar y defnydd o fathau penodol o dir a gaffaelir o dan y Bennod hon, gweler adrannau 238 i 240 (tir cysegredig a chladdfeydd) a 241 (tiroedd comin, mannau agored a rhandiroedd tanwydd neu ardd gae) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.