RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 5CAFFAEL A DIOGELU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Caffael yn orfodol adeiladau rhestredig y mae angen eu hatgyweirio
142Dod â hawliau dros dir a gaffaelwyd yn orfodol i ben
(1)
Wrth gwblhau caffaeliad gorfodol o dir o dan adran 137—
(a)
mae’r holl hawliau tramwy preifat dros y tir wedi eu diddymu,
(b)
mae’r holl hawliau i osod cyfarpar, ei gadw neu ei gynnal a’i gadw ar y tir, odano neu drosto wedi eu diddymu, ac
(c)
mae gan yr awdurdod caffael hawlogaeth i unrhyw gyfarpar ar y tir, odano neu drosto.
(2)
Nid yw is-adran (1) yn gymwys—
(a)
i unrhyw hawl y mae gan ymgymerwr statudol hawlogaeth iddi, nac i gyfarpar sy’n perthyn i ymgymerwr statudol, at ddiben cynnal ei ymgymeriad,
(b)
i unrhyw hawl a roddir gan y cod cyfathrebu electronig neu yn unol â’r cod hwnnw i weithredwr rhwydwaith cod cyfathrebu electronig, nac i unrhyw gyfarpar cyfathrebu electronig sydd wedi ei osod at ddibenion rhwydwaith o’r fath, nac
(c)
i unrhyw hawl nac i unrhyw gyfarpar a bennir gan yr awdurdod caffael mewn cyfarwyddyd a roddir cyn cwblhau’r caffaeliad.
(3)
Mae is-adran (1) hefyd yn ddarostyngedig i unrhyw gytundeb (pa un a yw wedi ei wneud cyn neu ar ôl cwblhau’r caffaeliad) rhwng yr awdurdod caffael a’r person sydd â hawlogaeth i’r hawl neu y mae’r cyfarpar yn perthyn iddo.
(4)
Mae gan unrhyw berson sy’n dioddef colled drwy ddiddymu hawl neu drosglwyddo cyfarpar o dan yr adran hon hawlogaeth i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod caffael.
(5)
Mae digollediad o dan yr adran hon i’w benderfynu yn unol â Deddf Digollediad Tir 1961 (p. 33).
(6)
Yn is-adran (2)(b)—
ystyr “cod cyfathrebu electronig” (“electronic communications code”) yw’r cod a nodir yn Atodlen 3A i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21);
mae i “cyfarpar cyfathrebu electronig”, “gweithredwr” a “rhwydwaith cod cyfathrebu electronig” yr un ystyron ag a roddir i “electronic communications apparatus”, “operator” ac “electronic communications code network” gan baragraff 1(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.