RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 5CAFFAEL A DIOGELU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Caffael yn orfodol adeiladau rhestredig y mae angen eu hatgyweirio
141Cais i ddileu cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol wedi ei gynnwys mewn gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer caffael adeilad rhestredig o dan adran 137 a wnaed gan awdurdod cynllunio neu a luniwyd ar ffurf ddrafft gan Weinidogion Cymru.
(2)
Caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr adeilad rhestredig wneud cais i lys ynadon am orchymyn nad yw cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol i’w gynnwys yn y gorchymyn prynu gorfodol fel y’i cadarnheir neu y’i gwneir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Rhaid i’r cais gael ei wneud o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) neu baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.
(4)
Os yw’r llys ynadon wedi ei fodloni na chaniatawyd i’r adeilad rhestredig fynd i gyflwr gwael yn fwriadol at y diben a grybwyllir yn adran 140(1), rhaid iddo wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano.
(5)
Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad y llys ynadon ar y cais apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys y Goron.
(6)
Mae’r hawliau a roddir gan yr adran hon yn ychwanegol at yr hawliau a roddir gan adran 139 ac nid ydynt yn cyfyngu arnynt.