RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 3RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG
Ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig
14Gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig
(1)
Rhaid i gais am gydsyniad heneb gofrestredig gael ei wneud i Weinidogion Cymru.
(2)
Rhaid i gais—
(a)
nodi’r ardal o dir y mae’n ymwneud â hi,
(b)
disgrifio’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ac effaith debygol y gwaith ar yr heneb, ac
(c)
cynnwys unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
ffurf a chynnwys cais (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru);
(b)
sut y mae rhaid gwneud cais;
(c)
dogfennau neu ddeunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys gyda chais.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru gytuno â cheisydd y caniateir gwneud cais nad yw’n unol ag is-adran (2) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3), os yw’r cais yn ymwneud â gwaith y mae is-adran (5) yn gymwys iddo.
(5)
Mae’r is-adran hon yn gymwys i fân waith a gyflawnir at ddiben—
(a)
symud ymaith neu atgyweirio heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni, neu
(b)
gwneud unrhyw addasiadau i’r heneb neu unrhyw ychwanegiadau ati.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu achosion ychwanegol pan ganiateir i gais am gydsyniad heneb gofrestredig gael ei wneud mewn ffordd nad yw’n unol ag is-adran (2) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3); a chaiff y rheoliadau roi disgresiwn i Weinidogion Cymru.