RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 4GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD AG ADEILADAU RHESTREDIG
Gwaharddebau
135Gwaharddeb i atal gwaith anawdurdodedig neu fethiant i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniad
(1)
Caiff awdurdod cynllunio wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb i atal—
(a)
toriad gwirioneddol neu doriad disgwyliedig o adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) mewn perthynas ag adeilad rhestredig yn ei ardal, neu
(b)
methiant gwirioneddol neu fethiant disgwyliedig i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer gwaith i adeilad rhestredig yn ei ardal.
(2)
Caiff awdurdod wneud cais pa un a yw wedi arfer, neu’n cynnig arfer, unrhyw un neu ragor o’i bwerau eraill o dan y Rhan hon ai peidio.
(3)
Caiff y llys roi gwaharddeb ar unrhyw delerau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben atal y toriad.
(4)
Caiff rheolau llys ddarparu i waharddeb gael ei dyroddi yn erbyn person nad yw’n hysbys pwy ydyw.
(5)
Ni chaniateir dyroddi gwaharddeb o dan yr adran hon yn erbyn y Goron.