RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 4GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD AG ADEILADAU RHESTREDIG
Hysbysiadau gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion Cymru
134Pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad gorfodi
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad gorfodi os ydynt yn ystyried—
(a)
bod gwaith sy’n golygu torri adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag adeilad rhestredig, a
(b)
ei bod yn briodol dyroddi’r hysbysiad, gan roi sylw i effaith y gwaith ar gymeriad yr adeilad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
(2)
Cyn dyroddi’r hysbysiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal.
(3)
Mae hysbysiad gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn cael yr un effaith ag un a ddyroddir gan awdurdod cynllunio.
(4)
Mae adrannau 123 i 132 yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion Cymru fel pe bai cyfeiriadau at awdurdod cynllunio yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.