RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 4GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD AG ADEILADAU RHESTREDIG
Cydymffurfio â hysbysiadau gorfodi
133Y drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi
(1)
Pan, ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod y mae hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo, na fo’r cam wedi ei gymryd, mae person sydd ar y pryd yn berchennog ar yr adeilad rhestredig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn euog o drosedd.
(2)
Caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu at gyfnod hwy, a chaniateir iddo gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad gorfodi drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.
(3)
Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi—
(a)
iddo wneud popeth y gellid bod wedi disgwyl iddo ei wneud i sicrhau i’r camau a oedd yn ofynnol gan yr hysbysiad gael eu cymryd, neu
(b)
na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi i’r person ac nad oedd yn ymwybodol o’i fodolaeth.
(4)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.
(5)
Wrth benderfynu swm y ddirwy, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fudd ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei fod yn debygol o gronni, i’r person o ganlyniad i’r drosedd.