RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 4GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD AG ADEILADAU RHESTREDIG
Cydymffurfio â hysbysiadau gorfodi
132Adennill costau cydymffurfio â hysbysiad gorfodi
(1)
Pan fo awdurdod cynllunio yn arfer y pwerau o dan adran 131(1) i fynd ar dir a chymryd cam sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi, caiff yr awdurdod adennill oddi wrth berson sydd ar y pryd yn berchennog ar y tir y costau y mae’n mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny.
(2)
Os yw awdurdod cynllunio yn ceisio adennill costau o dan is-adran (1) oddi wrth berchennog ar dir—
(a)
y mae ganddo hawlogaeth i gael crogrent y tir dim ond fel asiant neu ymddiriedolwr ar gyfer person arall (y “penadur”), a
(b)
nad oes ganddo, ac nad oedd ganddo ar unrhyw adeg ers y diwrnod pan fynnwyd bod y costau yn cael eu talu, ddigon o arian ar ran y penadur i dalu’r costau yn llawn,
mae atebolrwydd yr asiant neu’r ymddiriedolwr wedi ei gyfyngu i gyfanswm yr arian y mae’r asiant neu’r ymddiriedolwr wedi ei gael ar ran y penadur ers y diwrnod hwnnw.
(3)
Os yw is-adran (2) yn atal awdurdod cynllunio rhag adennill y cyfan o’i gostau oddi wrth asiant neu ymddiriedolwr, caiff eu hadennill oddi wrth y penadur, neu’n rhannol oddi wrth y penadur ac yn rhannol oddi wrth yr asiant neu’r ymddiriedolwr.
(4)
Pan fo copi o hysbysiad gorfodi wedi cael ei gyflwyno mewn cysylltiad ag adeilad rhestredig, mae—
(a)
costau y mae perchennog neu feddiannydd ar yr adeilad yn mynd iddynt at ddiben cydymffurfio â’r hysbysiad, a
(b)
symiau y mae perchennog ar dir yn eu talu o dan is-adran (1) mewn cysylltiad â chostau y mae’r awdurdod cynllunio yn mynd iddynt wrth gymryd camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad,
i’w trin fel pe aed iddynt neu pe baent wedi eu talu at ddefnydd ac ar gais y person a gyflawnodd y gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
(5)
Mae’r costau y gellir eu hadennill gan awdurdod cynllunio o dan is-adran (1), hyd nes iddynt gael eu hadennill, yn bridiant ar y tir y mae’r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef.
(6)
Mae’r pridiant yn cymryd effaith fel pridiant tir lleol ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r awdurdod yn cwblhau’r cam y mae’r costau’n ymwneud ag ef.
(7)
Mae is-adran (8) yn gymwys pan—
(a)
bo awdurdod cynllunio yn symud ymaith ddeunyddiau o dir yng nghwrs cymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi, a
(b)
na fo perchennog y deunyddiau, o fewn 3 diwrnod ar ôl y diwrnod y cânt eu symud ymaith, yn hawlio’r deunyddiau ac yn mynd â hwy i ffwrdd.
(8)
O ran yr awdurdod cynllunio—
(a)
caiff werthu’r deunyddiau, a
(b)
os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo dalu’r enillion i’r person a oedd yn berchen ar y deunyddiau, ar ôl didynnu unrhyw gostau y gall yr awdurdod eu hadennill oddi wrth y person.
(9)
Ni chaiff awdurdod cynllunio adennill costau o dan yr adran hon oddi wrth y Goron.