RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 4GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD AG ADEILADAU RHESTREDIG

Cydymffurfio â hysbysiadau gorfodi

131Pŵer i fynd ar dir a chymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi

(1)

Os yw’r cyfnod y mae hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo wedi dod i ben ac nad yw’r cam wedi ei gymryd, caiff yr awdurdod cynllunio a ddyroddodd yr hysbysiad, ar unrhyw adeg resymol, fynd ar y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a chymryd y cam.

(2)

Mae person sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer o dan is-adran (1) yn cyflawni trosedd.

(3)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)

Nid yw’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron.