RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 4GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD AG ADEILADAU RHESTREDIG

Cydymffurfio â hysbysiadau gorfodi

130Gorchymyn i ganiatáu camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi

(1)

Caiff perchennog tir wneud cais drwy gŵyn i lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson arall a chanddo fuddiant yn y tir ganiatáu i’r perchennog gymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi.

(2)

Caiff y llys wneud gorchymyn o’r fath os yw wedi ei fodloni bod y person arall yn atal y perchennog rhag cymryd camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad gorfodi.