RHAN 2LL+CHENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 3LL+CRHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG

Awdurdodi gwaithLL+C

13Awdurdodi gwaith drwy gydsyniad heneb gofrestredigLL+C

(1)Mae gwaith y mae adran 11 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi—

(a)os yw cydsyniad ysgrifenedig i’w gyflawni wedi ei roi gan Weinidogion Cymru, a

(b)os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho).

(2)Pan—

(a)bo gwaith y mae adran 11 yn gymwys iddo wedi ei gyflawni heb fod wedi ei awdurdodi o dan y Bennod hon, a

(b)bo Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer y gwaith,

mae’r gwaith wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad.

(3)Cyfeirir at gydsyniad o dan is-adran (1) neu (2) yn y Rhan hon fel cydsyniad heneb gofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 13 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)