RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 3RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG

Awdurdodi gwaith

13Awdurdodi gwaith drwy gydsyniad heneb gofrestredig

(1)

Mae gwaith y mae adran 11 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi—

(a)

os yw cydsyniad ysgrifenedig i’w gyflawni wedi ei roi gan Weinidogion Cymru, a

(b)

os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho).

(2)

Pan—

(a)

bo gwaith y mae adran 11 yn gymwys iddo wedi ei gyflawni heb fod wedi ei awdurdodi o dan y Bennod hon, a

(b)

bo Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer y gwaith,

mae’r gwaith wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad.

(3)

Cyfeirir at gydsyniad o dan is-adran (1) neu (2) yn y Rhan hon fel cydsyniad heneb gofrestredig.