RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 4GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD AG ADEILADAU RHESTREDIG
Hysbysiadau gorfodi a ddyroddir gan awdurdodau cynllunio
124Cyflwyno hysbysiad gorfodi a’r hysbysiad yn cymryd effaith
(1)
Rhaid i hysbysiad gorfodi bennu—
(a)
y dyddiad y mae i gymryd effaith, a
(b)
o fewn pa gyfnod y mae rhaid cymryd y camau a bennir ynddo.
(2)
Mae’r hysbysiad yn cymryd effaith ar ddechrau’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1)(a); ond pan fo apêl yn cael ei gwneud yn erbyn yr hysbysiad o dan adran 127, mae hyn yn ddarostyngedig i adrannau 127(4)(a) a 184(5).
(3)
Caiff hysbysiad gorfodi bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer cymryd camau gwahanol.
(4)
Pan fo awdurdod cynllunio yn dyroddi hysbysiad gorfodi, rhaid iddo gyflwyno copi o’r hysbysiad—
(a)
i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad rhestredig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a
(b)
i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr adeilad y mae’r awdurdod yn ystyried bod yr hysbysiad yn effeithio’n sylweddol arno.
(5)
Rhaid cyflwyno pob copi o’r hysbysiad—
(a)
cyn diwedd 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a
(b)
o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae i gymryd effaith.