Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhnau. 3-5 cymhwyso (4.11.2024) gan S.I. 1999/1736, ergl. 11(1) (fel y'u diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 (O.S. 2024/924), rhlau. 1(2), 23(a))
(1)Caiff awdurdod cynllunio ddyroddi hysbysiad gorfodi os yw’n ystyried—
(a)bod gwaith sy’n golygu torri adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag adeilad rhestredig yn ei ardal, a
(b)ei bod yn briodol dyroddi’r hysbysiad, gan roi sylw i effaith y gwaith ar gymeriad yr adeilad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
(2)Rhaid i hysbysiad gorfodi—
(a)pennu’r toriad honedig, a
(b)ei gwneud yn ofynnol i gamau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd at un neu ragor o’r dibenion a nodir yn is-adran (3).
(3)Y dibenion yw—
(a)adfer yr adeilad rhestredig i’w gyflwr cyn i’r toriad ddigwydd,
(b)os yw’r awdurdod cynllunio yn ystyried na fyddai gwaith adfer yn rhesymol ymarferol neu y byddai’n annymunol, cyflawni gwaith pellach i leddfu effaith y toriad, neu
(c)rhoi’r adeilad yn y cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe cydymffurfiwyd â thelerau unrhyw gydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cydsyniad).
(4)Pan fo hysbysiad gorfodi yn gosod gofyniad o dan is-adran (3)(b), mae cydsyniad adeilad rhestredig i’w drin fel pe bai wedi ei roi ar gyfer unrhyw waith sydd wedi ei gyflawni yn unol â’r gofyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 123 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)