RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 4GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD AG ADEILADAU RHESTREDIG
Hysbysiadau gorfodi a ddyroddir gan awdurdodau cynllunio
123Pŵer awdurdod cynllunio i ddyroddi hysbysiad gorfodi
(1)
Caiff awdurdod cynllunio ddyroddi hysbysiad gorfodi os yw’n ystyried—
(a)
bod gwaith sy’n golygu torri adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag adeilad rhestredig yn ei ardal, a
(b)
ei bod yn briodol dyroddi’r hysbysiad, gan roi sylw i effaith y gwaith ar gymeriad yr adeilad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
(2)
Rhaid i hysbysiad gorfodi—
(a)
pennu’r toriad honedig, a
(b)
ei gwneud yn ofynnol i gamau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd at un neu ragor o’r dibenion a nodir yn is-adran (3).
(3)
Y dibenion yw—
(a)
adfer yr adeilad rhestredig i’w gyflwr cyn i’r toriad ddigwydd,
(b)
os yw’r awdurdod cynllunio yn ystyried na fyddai gwaith adfer yn rhesymol ymarferol neu y byddai’n annymunol, cyflawni gwaith pellach i leddfu effaith y toriad, neu
(c)
rhoi’r adeilad yn y cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe cydymffurfiwyd â thelerau unrhyw gydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cydsyniad).
(4)
Pan fo hysbysiad gorfodi yn gosod gofyniad o dan is-adran (3)(b), mae cydsyniad adeilad rhestredig i’w drin fel pe bai wedi ei roi ar gyfer unrhyw waith sydd wedi ei gyflawni yn unol â’r gofyniad.