xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 4GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD AG ADEILADAU RHESTREDIG

Hysbysiadau stop dros dro

121Y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, ar unrhyw adeg pan fydd hysbysiad stop dros dro yn cael effaith, yn cyflawni gwaith sydd wedi ei wahardd gan yr hysbysiad neu’n peri neu’n caniatáu i waith o’r fath gael ei gyflawni.

(2)Caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu at gyfnod hwy, a chaniateir iddo gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad stop dros dro drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, am fodolaeth yr hysbysiad stop dros dro.

(4)Mewn achos am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad profi—

(a)bod gwaith i’r adeilad rhestredig yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd neu ar gyfer diogelu’r adeilad,

(b)nad oedd yn ymarferol sicrhau diogelwch neu iechyd neu sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddiogelu drwy gyflawni gwaith atgyweirio neu waith i ategu neu gysgodi’r adeilad dros dro,

(c)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, a

(d)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl gyflawni’r gwaith gael ei roi i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal, neu yr oedd yr adeilad yn ei ardal, cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(6)Wrth benderfynu swm y ddirwy, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fudd ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei fod yn debygol o gronni, i’r person o ganlyniad i’r drosedd.