RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 3RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG
Awdurdodi gwaith
12Awdurdodi dosbarthau o waith
(1)
Mae gwaith y mae adran 11 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi os yw’r gwaith o fewn dosbarth o waith a ddisgrifir yn y tabl yn Atodlen 3.
(2)
Mae awdurdodiad o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau neu unrhyw amodau a bennir yn y tabl mewn perthynas â gwaith o ddosbarth penodol.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw is-adran (1) yn gymwys i unrhyw heneb gofrestredig a bennir yn y cyfarwyddyd.
(4)
Nid yw cyfarwyddyd o dan is-adran (3) yn cymryd effaith hyd nes bod hysbysiad ohono wedi ei gyflwyno i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb o dan sylw.
(5)
Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi gwaith yn groes i unrhyw eithriad neu unrhyw amod sydd ynghlwm wrth gydsyniad heneb gofrestredig.
(6)
Mae awdurdodiad o dan is-adran (1) yn cael effaith er budd yr heneb a phob person sydd â buddiant yn yr heneb am y tro; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn Atodlen 3.