RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 3CYTUNDEBAU PARTNERIAETHAU ADEILADAU RHESTREDIG
113Cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig
(1)
Caiff awdurdod cynllunio wneud cytundeb o dan yr adran hon ag unrhyw berchennog ar adeilad rhestredig, neu ran o adeilad rhestredig, sydd yn ei ardal.
(2)
Caiff unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn hefyd fod yn barti i’r cytundeb (yn ogystal â’r perchennog a’r awdurdod)—
(a)
Gweinidogion Cymru;
(b)
unrhyw feddiannydd ar yr adeilad;
(c)
unrhyw berson arall sydd â buddiant yn yr adeilad;
(d)
unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r adeilad;
(e)
unrhyw berson arall y mae’r awdurdod cynllunio yn ystyried ei fod yn briodol gan fod ganddo wybodaeth arbennig am yr adeilad, neu ddiddordeb arbennig ynddo, neu wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddynt.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb o dan yr adran hon ag unrhyw berchennog ar adeilad rhestredig neu ran o adeilad rhestredig.
(4)
Caiff unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn hefyd fod yn barti i’r cytundeb (yn ogystal â’r perchennog a Gweinidogion Cymru)—
(a)
unrhyw awdurdod cynllunio y mae’r adeilad neu’r rhan yn ei ardal;
(b)
unrhyw feddiannydd ar yr adeilad;
(c)
unrhyw berson arall sydd â buddiant yn yr adeilad;
(d)
unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r adeilad;
(e)
unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol gan fod ganddo wybodaeth arbennig am yr adeilad, neu ddiddordeb arbennig ynddo, neu wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddynt.
(5)
Cyfeirir at gytundeb o dan yr adran hon fel “cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig” yn y Ddeddf hon.
(6)
Caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig roi cydsyniad adeilad rhestredig o dan adran 89(1) ar gyfer gwaith penodedig ar gyfer addasu neu estyn yr adeilad rhestredig y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef.
(7)
Pan fo cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig yn rhoi cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r cytundeb bennu’r amodau hynny.
(8)
Caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig hefyd—
(a)
pennu gwaith a fyddai neu na fyddai, ym marn y partïon, yn effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig;
(b)
gwneud darpariaeth ynghylch cynnal a chadw a diogelu’r adeilad;
(c)
gwneud darpariaeth ynghylch cyflawni gwaith penodedig, neu wneud unrhyw beth penodedig, mewn perthynas â’r adeilad;
(d)
darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r adeilad a darparu cyfleusterau cysylltiedig, gwybodaeth gysylltiedig neu wasanaethau cysylltiedig i’r cyhoedd;
(e)
cyfyngu ar fynediad i’r adeilad neu ar y defnydd o’r adeilad;
(f)
gwahardd gwneud unrhyw beth penodedig mewn perthynas â’r adeilad;
(g)
darparu i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru wneud taliadau o symiau penodedig ac ar delerau penodedig—
(i)
am gostau unrhyw waith y darperir ar ei gyfer o dan y cytundeb, neu tuag at y costau hynny, neu
(ii)
yn gydnabyddiaeth am unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth a dderbynnir gan unrhyw barti arall i’r cytundeb.
(9)
Caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig ymwneud â mwy nag un adeilad rhestredig neu fwy nag un rhan o adeilad rhestredig, ond dim ond os yw’r partïon i’r cytundeb yn cynnwys mewn perthynas â phob adeilad neu bob rhan—
(a)
perchennog ar yr adeilad hwnnw neu’r rhan honno, a
(b)
yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad hwnnw neu’r rhan honno yn ei ardal neu Weinidogion Cymru.
(10)
Yn yr adran hon—
ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu neu ei ddisgrifio mewn cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig;
ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig neu ran o adeilad rhestredig, yw person—
(a)
sy’n berchen ar yr ystad rydd-ddaliadol yn yr adeilad neu’r rhan, neu
(b)
sy’n denant o dan les ar yr adeilad neu’r rhan a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.