(1)Caiff awdurdod cynllunio wneud cytundeb o dan yr adran hon ag unrhyw berchennog ar adeilad rhestredig, neu ran o adeilad rhestredig, sydd yn ei ardal.
(2)Caiff unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn hefyd fod yn barti i’r cytundeb (yn ogystal â’r perchennog a’r awdurdod)—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)unrhyw feddiannydd ar yr adeilad;
(c)unrhyw berson arall sydd â buddiant yn yr adeilad;
(d)unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r adeilad;
(e)unrhyw berson arall y mae’r awdurdod cynllunio yn ystyried ei fod yn briodol gan fod ganddo wybodaeth arbennig am yr adeilad, neu ddiddordeb arbennig ynddo, neu wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddynt.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb o dan yr adran hon ag unrhyw berchennog ar adeilad rhestredig neu ran o adeilad rhestredig.
(4)Caiff unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn hefyd fod yn barti i’r cytundeb (yn ogystal â’r perchennog a Gweinidogion Cymru)—
(a)unrhyw awdurdod cynllunio y mae’r adeilad neu’r rhan yn ei ardal;
(b)unrhyw feddiannydd ar yr adeilad;
(c)unrhyw berson arall sydd â buddiant yn yr adeilad;
(d)unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r adeilad;
(e)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol gan fod ganddo wybodaeth arbennig am yr adeilad, neu ddiddordeb arbennig ynddo, neu wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddynt.
(5)Cyfeirir at gytundeb o dan yr adran hon fel “cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig” yn y Ddeddf hon.
(6)Caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig roi cydsyniad adeilad rhestredig o dan adran 89(1) ar gyfer gwaith penodedig ar gyfer addasu neu estyn yr adeilad rhestredig y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef.
(7)Pan fo cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig yn rhoi cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r cytundeb bennu’r amodau hynny.
(8)Caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig hefyd—
(a)pennu gwaith a fyddai neu na fyddai, ym marn y partïon, yn effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig;
(b)gwneud darpariaeth ynghylch cynnal a chadw a diogelu’r adeilad;
(c)gwneud darpariaeth ynghylch cyflawni gwaith penodedig, neu wneud unrhyw beth penodedig, mewn perthynas â’r adeilad;
(d)darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r adeilad a darparu cyfleusterau cysylltiedig, gwybodaeth gysylltiedig neu wasanaethau cysylltiedig i’r cyhoedd;
(e)cyfyngu ar fynediad i’r adeilad neu ar y defnydd o’r adeilad;
(f)gwahardd gwneud unrhyw beth penodedig mewn perthynas â’r adeilad;
(g)darparu i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru wneud taliadau o symiau penodedig ac ar delerau penodedig—
(i)am gostau unrhyw waith y darperir ar ei gyfer o dan y cytundeb, neu tuag at y costau hynny, neu
(ii)yn gydnabyddiaeth am unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth a dderbynnir gan unrhyw barti arall i’r cytundeb.
(9)Caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig ymwneud â mwy nag un adeilad rhestredig neu fwy nag un rhan o adeilad rhestredig, ond dim ond os yw’r partïon i’r cytundeb yn cynnwys mewn perthynas â phob adeilad neu bob rhan—
(a)perchennog ar yr adeilad hwnnw neu’r rhan honno, a
(b)yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad hwnnw neu’r rhan honno yn ei ardal neu Weinidogion Cymru.
(10)Yn yr adran hon—
ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu neu ei ddisgrifio mewn cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig;
ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig neu ran o adeilad rhestredig, yw person—
sy’n berchen ar yr ystad rydd-ddaliadol yn yr adeilad neu’r rhan, neu
sy’n denant o dan les ar yr adeilad neu’r rhan a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.