Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhnau. 3-5 cymhwyso (4.11.2024) gan S.I. 1999/1736, ergl. 11(1) (fel y'u diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 (O.S. 2024/924), rhlau. 1(2), 23(a))
(1)Rhaid cyflwyno hysbysiad prynu o fewn 12 mis sy’n dechrau—
(a)yn achos hysbysiad sy’n ymwneud â phenderfyniad i wrthod cydsyniad adeilad rhestredig neu i’w roi yn ddarostyngedig i amodau, â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, neu
(b)yn achos hysbysiad sy’n ymwneud â gorchymyn o dan adran 107 sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig, â’r diwrnod y mae’r gorchymyn yn cymryd effaith.
(2)Mewn achos pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu apêl yn erbyn penderfyniad gan awdurdod cynllunio i wrthod cydsyniad adeilad rhestredig neu i’w roi yn ddarostyngedig i amodau, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at y diwrnod y gwneir y penderfyniad i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu’r apêl.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg estyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno hysbysiad prynu mewn achos penodol, os ydynt wedi eu bodloni bod rhesymau da dros wneud hynny.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid cyflwyno hysbysiad prynu.
(5)Pan fo hysbysiad atgyweirio wedi ei gyflwyno i berchennog ar adeilad rhestredig o dan adran 138, nid oes gan y perchennog hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â’r adeilad—
(a)cyn diwedd y 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad atgyweirio, neu
(b)os dechreuir caffael yr adeilad yn orfodol o dan adran 137 yn ystod y cyfnod hwnnw, oni bai bod y caffaeliad gorfodol yn cael ei derfynu.
(6)Ni chaiff perchennog ar adeilad rhestredig sydd wedi cyflwyno hysbysiad prynu ddiwygio’r hysbysiad; ond nid yw hynny yn atal y perchennog rhag cyflwyno hysbysiad prynu pellach sy’n ymwneud â’r un penderfyniad neu’r un gorchymyn.
(7)Os yw perchennog yn cyflwyno hysbysiad prynu pellach sy’n ymwneud â’r un penderfyniad neu’r un gorchymyn, mae’r hysbysiad cynharach i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl oni bai bod yr hysbysiad diweddarach yn datgan nad yw’r perchennog yn bwriadu ei dynnu’n ôl.
(8)At ddibenion is-adran (5)—
(a)mae caffaeliad gorfodol yn cael ei ddechrau—
(i)gan awdurdod cynllunio pan fydd yn cyflwyno’r hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67);
(ii)gan Weinidogion Cymru pan fyddant yn cyflwyno’r hybysiad sy’n ofynnol gan baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno;
(b)mae caffaeliad gorfodol yn cael ei derfynu—
(i)yn achos caffaeliad gan awdurdod cynllunio, pan fydd y gorchymyn prynu gorfodol wedi ei dynnu’n ôl neu pan fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â’i gadarnhau;
(ii)yn achos caffaeliad gan Weinidogion Cymru, pan fyddant yn penderfynu peidio â gwneud y gorchymyn prynu gorfodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 111 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)