RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG
Hawl perchennog adeilad rhestredig i’w gwneud yn ofynnol prynu buddiant
110Hysbysiad prynu mewn cysylltiad â thir y Goron
(1)
Ni chaiff perchennog buddiant preifat yn nhir y Goron gyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â’r buddiant hwnnw oni bai—
(a)
bod y perchennog wedi cynnig gwaredu’r buddiant i awdurdod priodol y Goron am bris sy’n hafal i’r digollediad (ac os na chytunir arno, mae i’w benderfynu yn yr un ffordd â’r digollediad) a fyddai’n daladwy am y buddiant pe bai’n cael ei gaffael yn unol â hysbysiad prynu, a
(b)
bod awdurdod priodol y Goron wedi gwrthod y cynnig.
(2)
Dim ond awdurdod priodol y Goron a gaiff gyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth mewn tir—
(a)
sy’n rhan o Ystad y Goron,
(b)
sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Ei ystadau preifat,
(c)
sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu
(d)
sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw.
(3)
Ni chaniateir cyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth mewn unrhyw dir arall.