Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhnau. 3-5 cymhwyso (4.11.2024) gan S.I. 1999/1736, ergl. 11(1) (fel y'u diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 (O.S. 2024/924), rhlau. 1(2), 23(a))
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei addasu neu ei ddirymu gan orchymyn o dan adran 107—
(a)sydd wedi ei wneud gan awdurdod cynllunio ac wedi ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru, neu
(b)sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru.
(2)Mae gan unrhyw berson sydd â buddiant yn yr adeilad rhestredig y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef hawlogaeth, wrth wneud hawliad i’r awdurdod cynllunio, i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod—
(a)am unrhyw wariant yr eir iddo gan y person wrth gyflawni gwaith y mae addasu neu ddirymu’r cydsyniad yn peri ei fod yn waith ofer;
(b)am unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r addasu neu’r dirymu.
(3)At ddibenion yr adran hon mae gwariant yr eir iddo wrth lunio planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n baratoadol i unrhyw waith, i’w drin fel pe bai’n wariant yr eir iddo wrth gyflawni’r gwaith.
(4)Yn ddarostyngedig i hynny, nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad—
(a)â gwaith a gyflawnir cyn rhoi’r cydsyniad adeilad rhestredig sydd wedi ei addasu neu ei ddirymu, neu
(b)â cholled neu ddifrod arall (ac eithrio colled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r cydsyniad gael ei roi.
(5)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae addasu neu ddirymu’r cydsyniad yn cymryd effaith.
(6)Yn is-adran (2) ystyr “yr awdurdod cynllunio” yw—
(a)yr awdurdod cynllunio a wnaeth y gorchymyn o dan adran 107, neu
(b)os gwnaed y gorchymyn gan Weinidogion Cymru, yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef yn ei ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 108 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)