RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Addasu a dirymu cydsyniad adeilad rhestredig

107Addasu a dirymu cydsyniad

(1)

Pan fo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi ar gais neu apêl o dan y Rhan hon, caiff yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal neu Weinidogion Cymru drwy orchymyn addasu neu ddirymu’r cydsyniad i unrhyw raddau.

(2)

Caniateir i orchymyn sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer unrhyw waith gael ei wneud ar unrhyw adeg cyn cwblhau’r gwaith, ond nid yw’n effeithio ar gydsyniad ar gyfer gwaith sydd wedi ei gyflawni cyn i’r gorchymyn gymryd effaith.

(3)

Yn Atodlen 8—

(a)

mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau y mae rhaid eu dilyn cyn i orchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio o dan yr adran hon gymryd effaith (naill ai gyda chadarnhad gan Weinidogion Cymru neu hebddo);

(b)

mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn y mae rhaid ei dilyn cyn i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan yr adran hon.