RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG
Achosion arbennig
105Ceisiadau gan awdurdodau cynllunio a’r Goron
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu nad yw darpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon i fod yn gymwys, neu ei bod i fod yn gymwys gydag addasiadau, i gais a grybwyllir yn is-adran (2) a wneir—
(a)
gan awdurdod cynllunio, neu
(b)
gan neu ar ran y Goron.
(2)
Mae’r ceisiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn geisiadau—
(a)
am gydsyniad adeilad rhestredig,
(b)
i amodau cydsyniad adeilad rhestredig gael eu hamrywio neu eu dileu, neu
(c)
i fanylion gwaith o dan amod mewn cydsyniad adeilad rhestredig gael eu cymeradwyo.
(3)
Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu i gais gael ei wneud i Weinidogion Cymru.