RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Apelau i Weinidogion Cymru

104Penderfynu apêl

(1)

Ar apêl o dan adran 100 caiff Gweinidogion Cymru—

(a)

caniatáu neu wrthod yr apêl, neu

(b)

gwrthdroi neu amrywio unrhyw ran o benderfyniad yr awdurdod cynllunio ar y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef (pa un a yw’r apêl yn ymwneud â’r rhan honno ai peidio),

a chânt ymdrin â’r cais fel pe bai wedi ei wneud iddynt hwy.

(2)

Pan wnaed yr apêl o dan adran 100(3) (methiant i roi hysbysiad o benderfyniad) ac nad yw’r awdurdod cynllunio wedi rhoi hysbysiad o dan adran 103(3), mae i’w thybio at ddibenion is-adran (1) i’r awdurdod benderfynu gwrthod y cais.

(3)

Ar apêl o dan adran 100 caiff Gweinidogion Cymru hefyd arfer eu pŵer o dan adran 76 i ddadrestru’r adeilad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef.

(4)

Mae Pennod 2 o Ran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyried apelau (gan gynnwys darpariaeth iddynt gael eu penderfynu gan bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru).

(5)

Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ar apêl yn derfynol.