xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

Addasiadau (ddim yn newid testun)

PENNOD 2LL+CRHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Apelau i Weinidogion CymruLL+C

103Penderfyniad ar gais ar ôl cyflwyno hysbysiad o apêlLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person sydd wedi gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig yn apelio o dan adran 100(3) (methiant i roi hysbysiad o benderfyniad).

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r apêl cyn diwedd y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ac sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o apêl.

(3)Caiff yr awdurdod cynllunio roi hysbysiad o’i benderfyniad ar y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4)Os yw’r awdurdod yn rhoi hysbysiad yn unol ag is-adran (3) mai gwrthod y cais yw ei benderfyniad—

(a)rhaid trin yr apêl fel apêl o dan adran 100(2) yn erbyn y gwrthodiad, a

(b)rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r apelydd i ddiwygio’r seiliau dros apelio.

(5)Os yw’r awdurdod yn rhoi hysbysiad yn unol ag is-adran (3) mai caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau yw ei benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r apelydd—

(a)i fwrw ymlaen â’r apêl fel apêl o dan adran 100(2) yn erbyn caniatáu‘r cais yn ddarostyngedig i amodau, a

(b)i ddiwygio’r seiliau dros apelio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 103(1), (3)-(5) mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)

I3A. 103(2) mewn grym ar 9.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/860, ergl. 2(2)(b)

I4A. 103(2) mewn grym ar 4.11.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)