RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG
Apelau i Weinidogion Cymru
103Penderfyniad ar gais ar ôl cyflwyno hysbysiad o apêl
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys os yw person sydd wedi gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig yn apelio o dan adran 100(3) (methiant i roi hysbysiad o benderfyniad).
(2)
Ni chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r apêl cyn diwedd y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ac sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o apêl.
(3)
Caiff yr awdurdod cynllunio roi hysbysiad o’i benderfyniad ar y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(4)
Os yw’r awdurdod yn rhoi hysbysiad yn unol ag is-adran (3) mai gwrthod y cais yw ei benderfyniad—
(a)
rhaid trin yr apêl fel apêl o dan adran 100(2) yn erbyn y gwrthodiad, a
(b)
rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r apelydd i ddiwygio’r seiliau dros apelio.
(5)
Os yw’r awdurdod yn rhoi hysbysiad yn unol ag is-adran (3) mai caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau yw ei benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r apelydd—
(a)
i fwrw ymlaen â’r apêl fel apêl o dan adran 100(2) yn erbyn caniatáu‘r cais yn ddarostyngedig i amodau, a
(b)
i ddiwygio’r seiliau dros apelio.