RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Apelau i Weinidogion Cymru

102Cyfyngiad ar amrywio cais ar ôl cyflwyno hysbysiad o apêl

(1)

Unwaith y bydd hysbysiad o apêl o dan adran 100 wedi ei gyflwyno, ni chaniateir amrywio’r cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef ac eithrio o dan amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)

Pan fo cais yn cael ei amrywio o dan yr adran hon, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod rhaid ymgynghori ymhellach mewn perthynas â’r cais.