RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Apelau i Weinidogion Cymru

101Y weithdrefn ar gyfer gwneud apêl

(1)

Rhaid gwneud apêl o dan adran 100 drwy gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru.

(2)

Caiff y seiliau dros apelio a ddatgenir yn yr hysbysiad gynnwys (ar eu pen eu hunain neu gyda seiliau eraill)—

(a)

honiad nad yw’r adeilad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac y dylai gael ei ddadrestru, neu

(b)

yn achos adeilad sy’n ddarostyngedig i warchodaeth interim neu restru dros dro, honiad na ddylai’r adeilad gael ei restru.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

ffurf hysbysiad o apêl (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu berson arall);

(b)

gwybodaeth y mae rhaid iddi gael ei chynnwys gyda hysbysiad o apêl;

(c)

y ffordd a’r cyfnod y mae rhaid cyflwyno hysbysiad o apêl ynddi neu o’i fewn (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i estyn y cyfnod).

(4)

Mae adran 91 (hysbysiad i berchnogion adeilad) yn gymwys mewn perthynas ag apelau o dan adran 100 sy’n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig neu i amodau gael eu hamrywio neu eu dileu, ond fel pe bai cyfeiriadau at gais a cheisydd yn gyfeiriadau at apêl ac apelydd.

(5)

Rhaid i’r cyfnod a bennir gan reoliadau o dan is-adran (3)(c) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth—

(a)

yn achos apêl o dan is-adran (2) o adran 100, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cael hysbysiad o’r penderfyniad;

(b)

yn achos apêl o dan is-adran (3) o’r adran honno, ddiwedd y cyfnod penderfynu (sydd â’r un ystyr ag yn yr is-adran honno).