Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhnau. 3-5 cymhwyso (4.11.2024) gan S.I. 1999/1736, ergl. 11(1) (fel y'u diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 (O.S. 2024/924), rhlau. 1(2), 23(a))
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cais wedi ei wneud i awdurdod cynllunio—
(a)am gydsyniad adeilad rhestredig,
(b)i amodau cydsyniad adeilad rhestredig gael eu hamrywio neu eu dileu, neu
(c)i fanylion gwaith o dan amod mewn cydsyniad adeilad rhestredig gael eu cymeradwyo.
(2)Caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru os yw’r awdurdod cynllunio—
(a)yn gwrthod y cais, neu
(b)yn caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau neu, yn achos cais i amodau gael eu hamrywio neu eu dileu, yn ei ganiatáu ac yn gosod amodau newydd.
(3)Caiff y ceisydd hefyd apelio i Weinidogion Cymru os nad yw’r awdurdod cynllunio wedi gwneud dim un o’r canlynol o fewn y cyfnod penderfynu—
(a)rhoi hysbysiad i’r ceisydd o’i benderfyniad ar y cais, neu
(b)yn achos cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu i amodau gael eu hamrywio neu eu dileu, rhoi hysbysiad i’r ceisydd ei fod—
(i)wedi arfer ei bŵer o dan adran 93 i wrthod ystyried y cais, neu
(ii)wedi atgyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru o dan adran 94.
(4)Yn is-adran (3) ystyr “y cyfnod penderfynu” yw—
(a)y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu
(b)cyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig rhwng y ceisydd a’r awdurdod cynllunio.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2A. 100 eithrio (4.11.2024) gan Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/930), rhlau. 1(2), 20
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 100(1)-(3), (4)(b) mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)
I3A. 100(4)(a) mewn grym ar 9.9.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 2(1)(g)