RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Apelau i Weinidogion Cymru

100Yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio neu fethiant awdurdod cynllunio i wneud penderfyniad

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cais wedi ei wneud i awdurdod cynllunio—

(a)

am gydsyniad adeilad rhestredig,

(b)

i amodau cydsyniad adeilad rhestredig gael eu hamrywio neu eu dileu, neu

(c)

i fanylion gwaith o dan amod mewn cydsyniad adeilad rhestredig gael eu cymeradwyo.

(2)

Caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru os yw’r awdurdod cynllunio—

(a)

yn gwrthod y cais, neu

(b)

yn caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau neu, yn achos cais i amodau gael eu hamrywio neu eu dileu, yn ei ganiatáu ac yn gosod amodau newydd.

(3)

Caiff y ceisydd hefyd apelio i Weinidogion Cymru os nad yw’r awdurdod cynllunio wedi gwneud dim un o’r canlynol o fewn y cyfnod penderfynu—

(a)

rhoi hysbysiad i’r ceisydd o’i benderfyniad ar y cais, neu

(b)

yn achos cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu i amodau gael eu hamrywio neu eu dileu, rhoi hysbysiad i’r ceisydd ei fod—

(i)

wedi arfer ei bŵer o dan adran 93 i wrthod ystyried y cais, neu

(ii)

wedi atgyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru o dan adran 94.

(4)

Yn is-adran (3) ystyr “y cyfnod penderfynu” yw—

(a)

y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu

(b)

cyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig rhwng y ceisydd a’r awdurdod cynllunio.