RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 2COFRESTR O HENEBION O BWYSIGRWYDD CENEDLAETHOL
Adolygu penderfyniadau i ddiwygio’r gofrestr i ychwanegu henebion etc.
10Darpariaeth atodol ynghylch adolygiadau
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
y ffurf a’r ffordd y mae rhaid i gais o dan adran 9 gael ei wneud;
(b)
yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu i Weinidogion Cymru, neu y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol, mewn cysylltiad â chais;
(c)
y cyfnod y mae rhaid i gais gael ei wneud ynddo.
(2)
Rhaid i adolygiad o dan adran 9 gael ei gynnal mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn (fel y’i penderfynir gan y person sy’n cynnal yr adolygiad)—
(a)
drwy ymchwiliad lleol;
(b)
drwy wrandawiad;
(c)
ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan adran 9.
(4)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) neu (3) awdurdodi Gweinidogion Cymru neu bersonau a benodir o dan adran 9(3)—
(a)
i benderfynu materion o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, a
(b)
i roi cyfarwyddydau mewn perthynas â’r materion hynny.
(5)
Mae Atodlenni 2 a 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch adolygiadau o dan adran 9.