(a gyflwynir gan adran 107(3))
1Nid yw gorchymyn o dan adran 107 a wneir gan awdurdod cynllunio ond yn cymryd effaith—
(a)os caiff ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 2, neu
(b)yn unol â pharagraff 3.
2(1)Pan fo awdurdod cynllunio yn cyflwyno gorchymyn o dan adran 107 i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad o gyflwyno’r gorchymyn—
(a)i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, a
(b)i unrhyw berson arall y mae’n meddwl y bydd y gorchymyn yn effeithio arno.
(2)Rhaid i’r hysbysiad bennu o fewn pa gyfnod y caiff person y’i cyflwynir iddo wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru am gyfle i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru a chael gwrandawiad ganddo.
(3)Os yw person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn gwneud cais o’r fath o fewn y cyfnod hwnnw, cyn cadarnhau’r gorchymyn rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle o’r fath i’r person hwnnw a’r awdurdod cynllunio.
(4)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (2) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau’r gorchymyn gydag addasiadau neu hebddynt.
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan—
(a)bo awdurdod cynllunio wedi gwneud gorchymyn o dan adran 107, a
(b)bo’r personau a ganlyn wedi hysbysu’r awdurdod yn ysgrifenedig nad ydynt yn gwrthwynebu’r gorchymyn—
(i)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, a
(ii)pob person arall y mae’r awdurdod yn meddwl y bydd y gorchymyn yn effeithio arno.
(2)Rhaid i’r awdurdod cynllunio (yn lle cyflwyno’r gorchymyn i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau)—
(a)cyhoeddi hysbysiad yn y ffordd a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru fod y gorchymyn wedi ei wneud,
(b)cyflwyno copi o’r hysbysiad i’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b), ac
(c)anfon copi o’r hysbysiad at Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 3 diwrnod ar ôl y diwrnod y’i cyhoeddir.
(3)Rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a)o fewn pa gyfnod y caiff personau y mae’r gorchymyn yn effeithio arnynt roi hysbysiad i Weinidogion Cymru eu bod am i’r gorchymyn gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau o dan y weithdrefn ym mharagraff 2;
(b)y cyfnod, os na roddir hysbysiad o‘r fath ac nad yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo bod rhaid cyflwyno’r gorchymyn iddynt i’w gadarnhau, y bydd y gorchymyn yn cymryd effaith heb gael ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru ar ei ddiwedd.
(4)Os, ar ddiwedd y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3)(a)—
(a)nad yw unrhyw berson y mae’r gorchymyn yn effeithio arno wedi rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru fel y’i crybwyllir yn is-baragraff (3)(a), a
(b)nad yw Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo bod rhaid cyflwyno’r gorchymyn iddynt i’w gadarnhau,
mae’r gorchymyn yn cymryd effaith ar ddiwedd y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3)(b).
(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3)(a) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y caiff yr hysbysiad o wneud y gorchymyn ei gyhoeddi am y tro cyntaf.
(6)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3)(b) fod o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3)(a).
4(1)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan adran 107 heb ymgynghori â’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef yn ei ardal.
(2)Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 107 rhaid i Weinidogion Cymru hefyd gyflwyno hysbysiad o’r gorchymyn arfaethedig—
(a)i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad, a
(b)i unrhyw berson arall y maent yn meddwl y bydd y gorchymyn yn effeithio arno.
(3)Rhaid i’r hysbysiad bennu o fewn pa gyfnod y caiff person y’i cyflwynir iddo wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru am gyfle i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru a chael gwrandawiad ganddo.
(4)Os yw person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn gwneud cais o’r fath o fewn y cyfnod hwnnw, cyn gwneud y gorchymyn rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle o’r fath i’r person hwnnw a’r awdurdod cynllunio.
(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.