xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

RHAN 3LL+CADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 5LL+CCAFFAEL A DIOGELU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG

Caffael drwy gytundeb adeiladau o ddiddordeb arbennigLL+C

136Pŵer awdurdod cynllunio i gaffael adeilad drwy gytundebLL+C

(1)Caiff awdurdod cynllunio gaffael drwy gytundeb—

(a)unrhyw adeilad sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru y mae’n ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a

(b)unrhyw dir y mae’r amodau yn is-adran (2) wedi eu bodloni mewn cysylltiad ag ef.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod y tir yn cynnwys yr adeilad, yn cydffinio ag ef neu’n gyfagos iddo, a

(b)bod yr awdurdod cynllunio yn ystyried bod angen y tir—

(i)ar gyfer diogelu’r adeilad neu ei amwynderau,

(ii)ar gyfer darparu neu hwyluso mynediad iddo, neu

(iii)ar gyfer ei reolaethu’n briodol neu ei reoli’n briodol.

(3)Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) yn gymwys (i’r graddau y mae’n berthnasol) i gaffaeliad o dan yr adran hon, ac eithrio adrannau 4 i 8, adran 10 ac adran 31 o’r Ddeddf honno.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Rhan honno at “the execution of the works” i’w darllen mewn perthynas â chaffaeliad o dan yr adran hon fel pe baent yn cynnwys cyflawni gwaith adeiladu neu waith cynnal a chadw sydd wedi ei awdurdodi gan adran 203 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) (pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Caffael yn orfodol adeiladau rhestredig y mae angen eu hatgyweirioLL+C

137Pwerau i gaffael adeilad rhestredig yn orfodol at ddiben ei ddiogeluLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru—

(a)yn ystyried nad yw camau rhesymol yn cael eu cymryd ar gyfer diogelu adeilad rhestredig yn briodol, a

(b)wedi eu bodloni bod achos cymhellol er budd y cyhoedd i’r adeilad gael ei gaffael yn orfodol at ddiben ei ddiogelu.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)awdurdodi’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal i gaffael yn orfodol yr adeilad ac unrhyw dir y mae’r amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni mewn cysylltiad ag ef, neu

(b)caffael yr adeilad a’r tir eu hunain yn orfodol.

(3)Yr amodau yw—

(a)bod y tir yn cynnwys yr adeilad, yn cydffinio ag ef neu’n gyfagos iddo, a

(b)bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen y tir—

(i)ar gyfer diogelu’r adeilad neu ei amwynderau,

(ii)ar gyfer darparu neu hwyluso mynediad iddo, neu

(iii)ar gyfer ei reolaethu’n briodol neu ei reoli’n briodol.

(4)Nid yw’r adran hon yn caniatáu caffael—

(a)adeilad sy’n heneb gofrestredig (ond gweler adran 43), neu

(b)adeilad crefyddol esempt.

(5)Nid yw’r adran hon yn caniatáu caffael buddiant yn nhir y Goron oni bai—

(a)bod y buddiant yn cael ei ddal ac eithrio gan neu ar ran y Goron, a

(b)bod awdurdod priodol y Goron yn cytuno i’r caffaeliad.

(6)Mae Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) yn gymwys i gaffaeliad o dan yr adran hon.

(7)Yn y Bennod hon ystyr “awdurdod caffael” yw—

(a)yn achos caffaeliad neu gaffaeliad arfaethedig o dan is-adran (2)(a), yr awdurdod cynllunio sy’n caffael neu’n cynnig caffael yr adeilad rhestredig neu’r tir;

(b)yn achos caffaeliad neu gaffaeliad arfaethedig o dan is-adran (2)(b), Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 137 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

138Gofyniad i gyflwyno hysbysiad atgyweirio cyn dechrau caffael yn orfodolLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod caffael ddechrau caffael adeilad rhestredig yn orfodol o dan adran 137 oni bai—

(a)bod yr awdurdod wedi cyflwyno hysbysiad atgyweirio i bob perchennog ar yr adeilad,

(b)bod y 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad atgyweirio wedi dod i ben, ac

(c)nad yw’r hysbysiad atgyweirio wedi ei dynnu’n ôl.

(2)Mae hysbysiad atgyweirio yn hysbysiad—

(a)sy’n pennu’r gwaith y mae’r awdurdod yn ystyried ei fod yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer diogelu’r adeilad rhestredig yn briodol, a

(b)sy’n esbonio effaith adrannau 137 i 141 o’r Ddeddf hon ac adran 49 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9) (rhagdybiaeth ynghylch cydsyniad adeilad rhestredig wrth asesu digollediad am gaffaeliad gorfodol).

(3)Os—

(a)yw adeilad rhestredig yn cael ei ddymchwel ar ôl cyflwyno hysbysiad atgyweirio mewn cysylltiad ag ef, ond

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y byddent wedi cadarnhau neu wedi gwneud gorchymyn prynu gorfodol mewn cysylltiad â’r adeilad pe na bai wedi cael ei ddymchwel,

nid yw dymchwel yr adeilad yn atal caffael safle’r adeilad yn orfodol o dan adran 137.

(4)Caiff awdurdod caffael ar unrhyw adeg dynnu’n ôl hysbysiad atgyweirio y mae wedi ei gyflwyno i unrhyw berson; ac os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo roi hysbysiad i’r person ar unwaith ei fod wedi ei dynnu’n ôl.

(5)At ddibenion is-adran (1) mae awdurdod caffael yn dechrau caffaeliad gorfodol pan fydd yn cyflwyno’r hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) neu baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

139Cais i stopio caffaeliad gorfodolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer caffael adeilad rhestredig o dan adran 137 yn cael ei wneud gan awdurdod cynllunio neu’n cael ei lunio ar ffurf ddrafft gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr adeilad rhestredig wneud cais i lys ynadon am orchymyn na chaniateir cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r gorchymyn prynu gorfodol.

(3)Rhaid i’r cais gael ei wneud o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) neu baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

(4)Os yw’r llys ynadon wedi ei fodloni bod camau rhesymol wedi eu cymryd ar gyfer diogelu’r adeilad rhestredig yn briodol, rhaid iddo wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano.

(5)Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad y llys ynadon ar y cais apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

140Cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol pan ganiatawyd i adeilad fynd i gyflwr gwael yn fwriadolLL+C

(1)Caiff gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer caffael adeilad rhestredig o dan adran 137 gynnwys cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol os yw’r awdurdod caffael wedi ei fodloni y caniatawyd i’r adeilad fynd i gyflwr gwael yn fwriadol at ddiben cyfiawnhau ei ddymchwel a datblygu’r safle neu unrhyw safle cydffiniol.

(2)Mae cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol yn gyfarwyddyd, wrth asesu digollediad am gaffael yr adeilad rhestredig yn orfodol, ei bod i’w thybio—

(a)na fyddai caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar gyfer unrhyw ddatblygiad o safle’r adeilad, a

(b)na fyddai cydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei roi ar gyfer unrhyw waith ar gyfer dymchwel, addasu neu estyn yr adeilad ac eithrio gwaith sy’n angenrheidiol i’w adfer i gyflwr priodol ac i’w gynnal mewn cyflwr priodol.

(3)Pan fo cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol wedi ei gynnwys mewn gorchymyn a wnaed gan awdurdod cynllunio neu a luniwyd ar ffurf ddrafft gan Weinidogion Cymru, rhaid i’r datganiad o effaith y gorchymyn yn yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) neu baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno—

(a)cynnwys datganiad bod y cyfarwyddyd wedi ei gynnwys, a

(b)esbonio effaith y cyfarwyddyd.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn cadarnhau neu’n gwneud gorchymyn prynu gorfodol sy’n cynnwys cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol, mae’r digollediad am y caffaeliad gorfodol i’w asesu yn unol â’r cyfarwyddyd, er gwaethaf unrhyw beth i’r gwrthwyneb yn—

(a)Deddf Digollediad Tir 1961 (p. 33),

(b)Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8),

(c)adran 49 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9), neu

(d)y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

141Cais i ddileu cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol wedi ei gynnwys mewn gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer caffael adeilad rhestredig o dan adran 137 a wnaed gan awdurdod cynllunio neu a luniwyd ar ffurf ddrafft gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr adeilad rhestredig wneud cais i lys ynadon am orchymyn nad yw cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol i’w gynnwys yn y gorchymyn prynu gorfodol fel y’i cadarnheir neu y’i gwneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i’r cais gael ei wneud o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) neu baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

(4)Os yw’r llys ynadon wedi ei fodloni na chaniatawyd i’r adeilad rhestredig fynd i gyflwr gwael yn fwriadol at y diben a grybwyllir yn adran 140(1), rhaid iddo wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano.

(5)Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad y llys ynadon ar y cais apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys y Goron.

(6)Mae’r hawliau a roddir gan yr adran hon yn ychwanegol at yr hawliau a roddir gan adran 139 ac nid ydynt yn cyfyngu arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

142Dod â hawliau dros dir a gaffaelwyd yn orfodol i benLL+C

(1)Wrth gwblhau caffaeliad gorfodol o dir o dan adran 137—

(a)mae’r holl hawliau tramwy preifat dros y tir wedi eu diddymu,

(b)mae’r holl hawliau i osod cyfarpar, ei gadw neu ei gynnal a’i gadw ar y tir, odano neu drosto wedi eu diddymu, ac

(c)mae gan yr awdurdod caffael hawlogaeth i unrhyw gyfarpar ar y tir, odano neu drosto.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys—

(a)i unrhyw hawl y mae gan ymgymerwr statudol hawlogaeth iddi, nac i gyfarpar sy’n perthyn i ymgymerwr statudol, at ddiben cynnal ei ymgymeriad,

(b)i unrhyw hawl a roddir gan y cod cyfathrebu electronig neu yn unol â’r cod hwnnw i weithredwr rhwydwaith cod cyfathrebu electronig, nac i unrhyw gyfarpar cyfathrebu electronig sydd wedi ei osod at ddibenion rhwydwaith o’r fath, nac

(c)i unrhyw hawl nac i unrhyw gyfarpar a bennir gan yr awdurdod caffael mewn cyfarwyddyd a roddir cyn cwblhau’r caffaeliad.

(3)Mae is-adran (1) hefyd yn ddarostyngedig i unrhyw gytundeb (pa un a yw wedi ei wneud cyn neu ar ôl cwblhau’r caffaeliad) rhwng yr awdurdod caffael a’r person sydd â hawlogaeth i’r hawl neu y mae’r cyfarpar yn perthyn iddo.

(4)Mae gan unrhyw berson sy’n dioddef colled drwy ddiddymu hawl neu drosglwyddo cyfarpar o dan yr adran hon hawlogaeth i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod caffael.

(5)Mae digollediad o dan yr adran hon i’w benderfynu yn unol â Deddf Digollediad Tir 1961 (p. 33).

(6)Yn is-adran (2)(b)—

  • ystyr “cod cyfathrebu electronig” (“electronic communications code”) yw’r cod a nodir yn Atodlen 3A i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21);

  • mae i “cyfarpar cyfathrebu electronig”, “gweithredwr” a “rhwydwaith cod cyfathrebu electronig” yr un ystyron ag a roddir i “electronic communications apparatus”, “operator” ac “electronic communications code network” gan baragraff 1(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Rheoli, defnyddio a gwaredu adeiladauLL+C

143Rheoli, defnyddio a gwaredu adeilad a gaffaelir o dan y Bennod honLL+C

(1)Pan fo awdurdod cynllunio yn caffael adeilad neu dir arall o dan y Bennod hon, caiff wneud unrhyw drefniadau ar gyfer rheoli, defnyddio neu waredu’r adeilad neu’r tir y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben diogelu’r adeilad neu’r tir.

(2)Am ddarpariaeth bellach ynghylch y defnydd o dir y mae awdurdod cynllunio yn ei gaffael drwy gytundeb o dan adran 136, gweler adrannau 232, 233 a 235 (neilltuo, gwaredu a datblygu), 242 (trechu hawliau i feddiannu) a 243 (cyd-gorff i ddal tir) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru yn caffael adeilad neu dir arall o dan adran 137, cânt—

(a)gwneud unrhyw drefniadau y maent yn ystyried eu bod yn briodol ar gyfer rheoli’r adeilad neu’r tir, gwarchodaeth ohono neu’r defnydd ohono, a

(b)gwaredu’r adeilad neu’r tir, neu ymdrin â’r adeilad neu’r tir mewn unrhyw ffordd arall.

(4)Am ddarpariaeth sy’n dileu cyfyngiadau ar y defnydd o fathau penodol o dir a gaffaelir o dan y Bennod hon, gweler adrannau 238 i 240 (tir cysegredig a chladdfeydd) a 241 (tiroedd comin, mannau agored a rhandiroedd tanwydd neu ardd gae) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 143 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Diogelu adeiladau rhestredig ar frysLL+C

144Gwaith brys i ddiogelu adeilad rhestredigLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol gyflawni unrhyw waith y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol ar frys ar gyfer diogelu adeilad rhestredig yn ei ardal.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyflawni unrhyw waith y maent yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar frys ar gyfer diogelu unrhyw adeilad rhestredig.

(3)Mae’r gwaith y caniateir ei gyflawni o dan yr adran hon yn cynnwys gwaith i ategu neu gysgodi’r adeilad rhestredig dros dro.

(4)Os yw’r adeilad rhestredig neu unrhyw ran ohono yn cael ei ddefnyddio at ddiben preswyl, dim ond os na fyddai’n ymyrryd yn afresymol â’r defnydd hwnnw y caniateir cyflawni gwaith o dan yr adran hon.

(5)Rhaid rhoi o leiaf 7 niwrnod clir o rybudd ysgrifenedig o’r bwriad i gyflawni gwaith o dan yr adran hon—

(a)i bob perchennog ar yr adeilad rhestredig, a

(b)os yw’r adeilad neu unrhyw ran ohono yn cael ei ddefnyddio at ddiben preswyl, i bob meddiannydd ar yr adeilad.

(6)Rhaid i’r rhybudd ddisgrifio’r gwaith y cynigir ei gyflawni.

(7)Ni chaniateir cyflawni gwaith o dan yr adran hon mewn perthynas—

(a)ag adeilad sy’n heneb gofrestredig (ond gweler adran 61),

(b)ag adeilad crefyddol esempt, neu

(c)ag adeilad rhestredig ar dir y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 144 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

145Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i berchennog dalu costau gwaith diogeluLL+C

(1)Pan fo gwaith ar gyfer diogelu adeilad rhestredig wedi ei gyflawni gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru o dan adran 144, caiff yr awdurdod lleol neu (yn ôl y digwydd) Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i unrhyw berchennog ar yr adeilad rhestredig sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog dalu costau’r gwaith.

(2)Pan fo’r gwaith yn waith i ategu neu gysgodi’r adeilad rhestredig dros dro neu’n cynnwys gwaith o’r fath—

(a)mae’r costau y caniateir eu hadennill yn cynnwys unrhyw wariant parhaus sy’n ymwneud â rhoi ar gael y cyfarpar neu’r deunyddiau a ddefnyddir, a

(b)caniateir rhoi hysbysiadau o dan is-adran (1) o bryd i’w gilydd mewn cysylltiad â’r gwariant parhaus hwnnw.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys os yw’r perchennog, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir hysbysiad o dan is-adran (1), yn cwyno’n ysgrifenedig i Weinidogion Cymru—

(a)bod rhywfaint neu’r cyfan o’r gwaith yn ddiangen ar gyfer diogelu’r adeilad rhestredig,

(b)yn achos gwaith i ategu neu gysgodi adeilad rhestredig dros dro, fod y trefniadau dros dro wedi parhau am gyfnod afresymol o amser,

(c)bod y swm a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol, neu

(d)y byddai adennill y swm hwnnw yn achosi caledi i’r perchennog.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)penderfynu i ba raddau y mae sail dda i gŵyn y perchennog, a

(b)cyflwyno hysbysiad o’u penderfyniad—

(i)i’r perchennog, a

(ii)os rhoddwyd yr hysbysiad o dan is-adran (1) gan awdurdod lleol, i’r awdurdod hwnnw.

(5)Rhaid i’r hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru ddatgan—

(a)y rhesymau dros y penderfyniad, a

(b)y swm y maent wedi penderfynu y caniateir iddo gael ei adennill.

(6)Caiff perchennog neu awdurdod lleol y cyflwynir hysbysiad iddo o dan is-adran (4)(b), o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, apelio i’r llys sirol yn erbyn penderfyniad Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 145 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

146Darpariaeth bellach ynghylch adennill costau gwaith diogeluLL+C

(1)Mae’r costau y caiff awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru eu hadennill o dan adran 145 yn dwyn llog, ar y gyfradd a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, o’r adeg y daw’r hysbysiad o dan is-adran (1) o’r adran honno yn weithredol hyd nes y caiff yr holl symiau sy’n ddyledus o dan yr adran honno eu hadennill.

(2)Mae’r costau ac unrhyw log yn adenilladwy gan yr awdurdod lleol neu (yn ôl y digwydd) Weinidogion Cymru fel dyled.

(3)Mae’r costau ac unrhyw log, o’r adeg pan ddaw’r hysbysiad o dan adran 145(1) yn weithredol hyd nes iddynt gael eu hadennill, yn bridiant ar y tir y mae’r adeilad rhestredig o dan sylw arno.

(4)Mae’r pridiant yn cymryd effaith, ar yr adeg y daw’r hysbysiad yn weithredol, fel pridiant cyfreithiol sy’n bridiant tir lleol.

(5)At ddiben gorfodi’r pridiant, mae gan yr awdurdod lleol neu (yn ôl y digwydd) Weinidogion Cymru yr un pwerau a rhwymedïau o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20) ac fel arall fel pe bai neu pe baent yn forgeisai drwy weithred sydd â phwerau i werthu’r tir, gwneud lesoedd, derbyn ildio lesoedd a phenodi derbynnydd.

(6)Mae’r pŵer i benodi derbynnydd yn arferadwy ar unrhyw adeg ar ôl diwedd 1 mis yn dechrau â’r diwrnod y mae’r pridiant yn cymryd effaith.

(7)At ddibenion yr adran hon mae hysbysiad o dan adran 145(1) yn dod yn weithredol—

(a)pan na fo unrhyw gŵyn wedi ei gwneud i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 145(3), ar ddiwedd y cyfnod hwnnw;

(b)pan fo cwyn wedi ei gwneud ond na wneir apêl i’r llys sirol o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 145(6), ar ddiwedd y cyfnod hwnnw;

(c)pan fo apêl wedi ei gwneud a bod y penderfyniad ar yr apêl yn cadarnhau penderfyniad Gweinidogion Cymru o dan adran 145(4) (gydag amrywiad neu heb amrywiad), ar adeg y penderfyniad;

(d)pan fo apêl wedi ei gwneud ond ei bod yn cael ei thynnu’n ôl, ar adeg y tynnu’n ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 146 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Darpariaeth bellach ynghylch diogelu adeiladau rhestredigLL+C

147Camau ar gyfer diogelu adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr gwaelLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer rhoi pwerau i awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru i gymryd camau i sicrhau bod adeiladau rhestredig sydd wedi mynd i gyflwr gwael yn cael eu diogelu’n briodol, ac mewn cysylltiad â rhoi’r pwerau hynny.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu ar gyfer—

(a)hysbysiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchnogion adeiladau rhestredig sydd wedi mynd i gyflwr gwael gyflawni gwaith i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n briodol (“hysbysiadau diogelu”);

(b)apelau yn erbyn hysbysiadau diogelu;

(c)troseddau am fethu â chydymffurfio â hysbysiadau diogelu.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)datgymhwyso, neu gymhwyso neu atgynhyrchu gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon neu Ran 5 neu 7;

(b)diwygio’r Rhan hon neu’r Rhannau hynny.

(4)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 147 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Cyllid ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau o ddiddordeb arbennig etc.LL+C

148Grant neu fenthyciad gan awdurdod lleol ar gyfer atgyweirio neu gynnal a chadw adeiladLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol perthnasol gyfrannu tuag at unrhyw wariant yr aed iddo, neu yr eir iddo, wrth atgyweirio neu gynnal a chadw—

(a)adeilad rhestredig sydd yn ardal yr awdurdod neu yn ei chyffiniau, neu

(b)adeilad yn ardal yr awdurdod nad yw’n adeilad rhestredig ond y mae’r awdurdod yn ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

(2)Ar yr un pryd â gwneud cyfraniad o’r fath, caiff yr awdurdod hefyd gyfrannu tuag at unrhyw wariant yr aed iddo, neu yr eir iddo, wrth gynnal a chadw unrhyw ardd—

(a)sy’n cael ei meddiannu gyda’r adeilad, a

(b)sy’n cydffinio ag ef neu’n gyfagos iddo.

(3)Caniateir i gyfraniad o dan yr adran hon gael ei wneud drwy grant neu fenthyciad.

(4)Caiff awdurdod lleol perthnasol roi benthyciad o dan yr adran hon ar unrhyw delerau ac unrhyw amodau y mae’n penderfynu arnynt, a all er enghraifft gynnwys teler bod y benthyciad yn ddi-log.

(5)Caiff awdurdod lleol perthnasol—

(a)ildio ei hawl i gael ad-daliad o fenthyciad neu unrhyw log sy’n weddill, a

(b)cytuno â’r benthyciwr i amrywio unrhyw un neu ragor o delerau ac amodau benthyciad.

(6)Caiff awdurdod lleol perthnasol roi grant o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’n ystyried eu bod yn briodol, a all er enghraifft gynnwys amod bod rhaid i dderbynnydd y grant wneud cytundeb â’r awdurdod at ddiben sicrhau mynediad y cyhoedd i’r cyfan neu ran o’r adeilad neu’r ardd y mae’r grant yn ymwneud ag ef neu â hi.

(7)Yn yr adran hon ac yn adran 149, ystyr “awdurdod lleol perthnasol” yw—

(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(c)bwrdd cydgynllunio a gyfansoddir o dan adran 2(1B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 148 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

149Adennill grant a roddir gan awdurdod lleolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol perthnasol yn rhoi grant o dan adran 148.

(2)Os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o amodau a osodir wrth roi’r grant, caiff yr awdurdod adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.

(3)Mae is-adrannau (4) a (5) yn gymwys os, yn ystod y 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y grant—

(a)gwaredir y cyfan neu ran o’r buddiant yr oedd derbynnydd y grant yn ei ddal neu ei dal yn yr adeilad neu’r ardd y mae’r grant yn ymwneud ag ef neu â hi ar y diwrnod y rhoddwyd y grant (“y buddiant perthnasol”), a

(b)gwneir y gwarediad drwy werthu, drwy gyfnewid neu drwy les am gyfnod o 21 o flynyddoedd o leiaf.

(4)Os gwneir y gwarediad gan dderbynnydd y grant neu gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi rhan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff yr awdurdod lleol perthnasol adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.

(5)Os gwneir y gwarediad gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi’r cyfan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff yr awdurdod adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth y person y rhoddwyd y rhodd iddo.

(6)Ni chaiff awdurdod lleol perthnasol adennill symiau o dan yr adran hon sydd, gyda’i gilydd, yn fwy na swm y grant.

(7)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at roi buddiant i berson yn gyfeiriadau at ei roi i’r person yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac eithrio ar farwolaeth deiliad y buddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 149 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

150Grant gan Weinidogion Cymru ar gyfer atgyweirio neu gynnal a chadw adeilad, gardd etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi grantiau i dalu unrhyw wariant yr aed iddo, neu yr eir iddo, wrth—

(a)atgyweirio neu gynnal a chadw adeilad y maent yn ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig,

(b)cynnal a chadw unrhyw dir sy’n cynnwys adeilad o’r fath, yn cydffinio ag ef neu’n gyfagos iddo,

(c)atgyweirio neu gynnal a chadw unrhyw wrthrychau a gedwir fel arfer mewn adeilad o’r fath, neu

(d)cynnal a chadw gardd neu dir arall y maent yn ystyried ei bod neu ei fod o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi grant o dan is-adran (1) ar delerau sy’n darparu y gellir ei adennill o dan yr adran hon, a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru, cyn neu wrth roi’r grant, yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i dderbynnydd y grant sydd—

(i)yn crynhoi effaith yr adran hon, a

(ii)yn pennu cyfnod, sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y grant ac sy’n dod i ben heb fod yn fwy na 10 mlynedd ar ôl y diwrnod hwnnw, y caniateir adennill y grant ynddo yn unol ag is-adrannau (4) i (6) (“y cyfnod adennill”).

(3)Os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o amodau a osodir wrth roi’r grant, caiff Gweinidogion Cymru adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.

(4)Mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys os, yn ystod y cyfnod adennill—

(a)caiff y cyfan neu ran o’r buddiant yr oedd derbynnydd y grant yn ei ddal, ar y diwrnod y rhoddwyd y grant, yn yr adeilad, y tir neu’r gwrthrychau (“y buddiant perthnasol”) y mae’r grant yn ymwneud ag ef neu â hwy ei waredu neu ei gwaredu, a

(b)gwneir y gwarediad drwy werthu, drwy gyfnewid neu drwy les am gyfnod o 21 o flynyddoedd o leiaf.

(5)Os gwneir y gwarediad gan dderbynnydd y grant neu gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi rhan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff Gweinidogion Cymru adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.

(6)Os gwneir y gwarediad gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi’r cyfan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff Gweinidogion Cymru adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth y person y rhoddwyd y rhodd iddo.

(7)Ni chaiff Gweinidogion Cymru adennill symiau o dan yr adran hon sydd, gyda’i gilydd, yn fwy na swm y grant.

(8)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at roi buddiant i berson yn gyfeiriadau at ei roi i’r person yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac eithrio ar farwolaeth deiliad y buddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 150 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

151Gweinidogion Cymru yn derbyn gwaddol ar gyfer cynnal adeiladLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo offeryn yn cynnwys darpariaeth sy’n ymhonni ei bod yn rhodd eiddo o unrhyw fath i Weinidogion Cymru ar ymddiriedolaeth i ddefnyddio incwm yr eiddo (naill ai am gyfnod cyfyngedig neu am gyfnod amhenodol) ar gyfer neu tuag at atgyweirio a chynnal a chadw adeilad perthnasol, neu adeilad perthnasol ynghyd ag eiddo arall,

(b)pan na fo’r ddarpariaeth yn creu ymddiriedolaeth elusennol, ac

(c)pan fo Gweinidogion Cymru yn derbyn y rhodd.

(2)Yn yr adran hon—

  • ystyr “adeilad perthnasol” (“relevant building”) yw—

    (a)

    adeilad y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac—

    (i)

    ar yr adeg y daw’r offeryn ymddiriedolaeth i rym, y mae ganddynt hawlogaeth i fuddiant ynddo, neu y bydd ganddynt hawlogaeth i fuddiant ynddo yn fuan, neu

    (ii)

    sydd, ar yr adeg honno, o dan eu rheolaeth neu’n cael ei reoli ganddynt neu a fydd o dan eu rheolaeth neu’n cael ei reoli ganddynt yn fuan, neu

    (b)

    adeilad sydd, ar yr adeg honno, o dan eu gwarcheidiaeth o dan Bennod 6 o Ran 2 neu a fydd o dan eu gwarcheidiaeth felly yn fuan;

  • ystyr “cronfa’r ymddiriedolaeth” (“trust fund”) yw’r eiddo a roddir i Weinidogion Cymru ac unrhyw eiddo sydd am y tro yn cynrychioli’r eiddo hwnnw;

  • ystyr “ymddiriedolaeth waddol” (“endowment trust”) yw’r ymddiriedolaeth y cyfeirir ati yn is-adran (1)(a).

(3)Nid effeithir ar ddilysrwydd y rhodd na dilysrwydd yr ymddiriedolaeth waddol gan unrhyw reol gyfreithiol neu unrhyw reol ecwiti na fyddai wedi effeithio ar eu dilysrwydd pe bai’r ymddiriedolaeth wedi bod yn un elusennol ac mae eu dilysrwydd i’w drin fel pe na bai unrhyw reol gyfreithiol o’r fath neu unrhyw reol ecwiti o’r fath erioed wedi effeithio arno.

(4)Tra bo’r ymddiriedolaeth waddol yn parhau, mae gan Weinidogion Cymru yr un pwerau o ran rheoli, gwaredu a buddsoddi mewn perthynas â chronfa’r ymddiriedolaeth ag a roddir gan y gyfraith i ymddiriedolwyr tir mewn perthynas â’r tir a’r enillion o’i werthu.

(5)Mae’r pwerau a roddir gan is-adran (4) yn ychwanegol at unrhyw bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan yr offeryn ymddiriedolaeth ac nid ydynt yn cyfyngu arnynt.

(6)Tra bo’r ymddiriedolaeth waddol yn parhau, os bydd digwyddiad—

(a)sy’n cael, ar unwaith, yr effaith nad oes gan Weinidogion Cymru hawlogaeth i unrhyw fuddiant yn yr adeilad y mae’r ymddiriedolaeth yn ymwneud ag ef ac nad oes ganddynt yr adeilad o dan eu rheolaeth neu nad yw’r adeilad yn cael ei reoli ganddynt, a

(b)na fyddai fel arall yn peri i’r ymddiriedolaeth waddol ddod i ben neu gael ei thrin fel pe bai wedi methu,

pan ddaw’r digwyddiad hwnnw i fod, mae’r ymddiriedolaeth waddol yn dod i ben ac mae cronfa’r ymddiriedolaeth yn pasio fel y byddai pe bai’r ymddiriedolaeth yn methu.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys os yw’r offeryn ymddiriedolaeth yn cynnwys darpariaeth sy’n ymhonni ei bod yn rhoi cronfa’r ymddiriedolaeth, neu’n cyfarwyddo i gronfa’r ymddiriedolaeth gael ei dal, ar ymddiriedolaeth at ddibenion elusennol os yw’r ymddiriedolaeth waddol yn methu neu’n dod i ben.

(8)Nid effeithir ar ddilysrwydd y rhodd na dilysrwydd y cyfarwyddyd gan unrhyw reol gyfreithiol sy’n ymwneud â bytholbarhadau neu unrhyw reol ecwiti sy’n ymwneud â bytholbarhadau ac mae eu dilysrwydd i’w drin fel pe na bai unrhyw reol gyfreithiol o’r fath neu unrhyw reol ecwiti o’r fath erioed wedi effeithio arno.

(9)Yn is-adran (4) mae i “ymddiriedolwyr tir” yr un ystyr ag a roddir i “trustees of land” yn Neddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47) (gweler adran 1(1) o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 151 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)