xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7CYFFREDINOL

Atodol

72Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion penodol o dan y Rhan hon

(1)Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd penderfyniad neu orchymyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio cais am adolygiad statudol o dan adran 73.

(2)Y penderfyniadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—

(a)penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar gais am gydsyniad heneb gofrestredig, a

(b)penderfyniad ar adolygiad o dan adran 9.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys i orchymyn o dan adran 20 sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad heneb gofrestredig.

(4)Nid yw’r adran hon yn atal unrhyw lys rhag arfer unrhyw awdurdodaeth mewn perthynas â gwrthodiad neu fethiant i wneud penderfyniad y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

73Cais i’r Uchel Lys am adolygiad statudol o benderfyniad neu orchymyn

(1)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad neu orchymyn y mae adran 72 yn gymwys iddo wneud cais am adolygiad statudol.

(2)Mae cais am adolygiad statudol yn gais i’r Uchel Lys sy’n cwestiynu dilysrwydd y penderfyniad neu’r gorchymyn ar y sail—

(a)nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu

(b)na chydymffurfiwyd â gofyniad perthnasol mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn.

(3)Rhaid i gais am adolygiad statudol gael ei wneud cyn diwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y gwneir y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(4)Ar unrhyw gais am adolygiad statudol, caiff yr Uchel Lys—

(a)gwneud gorchymyn interim sy’n atal dros dro weithrediad y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef, hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos;

(b)diddymu’r penderfyniad hwnnw neu’r gorchymyn hwnnw os yw wedi ei fodloni—

(i)nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu

(ii)bod methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn wedi cael effaith andwyol sylweddol ar fuddiannau’r ceisydd.

(5)Yn yr adran hon ystyr “gofyniad perthnasol” yw unrhyw ofyniad—

(a)yn y Ddeddf hon neu yn Neddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p. 53), neu

(b)mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf hon neu o dan y Ddeddf honno.

74Tir y Goron

(1)Nid yw’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron ond i’r graddau a nodir isod.

(2)Caniateir cynnwys heneb sydd ar dir y Goron, ynddo neu odano yn y gofrestr.

(3)Mae unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw bwerau a osodir neu a roddir gan y Rhan hon yn gymwys ac yn arferadwy mewn perthynas â thir y Goron ac mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir ar dir y Goron ac eithrio gan neu ar ran y Goron, ond nid fel y byddai’n effeithio ar unrhyw fuddiant sydd gan y Goron yn y tir.

(4)Nid yw’r adran hon yn caniatáu—

(a)i bŵer o dan y Rhan hon i fynd ar unrhyw dir, neu i wneud unrhyw beth ar unrhyw dir, gael ei arfer mewn perthynas â thir y Goron, na

(b)i fuddiant yn nhir y Goron a ddelir ac eithrio gan neu ar ran y Goron gael ei gaffael yn orfodol o dan y Rhan hon,

heb gytundeb awdurdod priodol y Goron.

75Dehongli’r Rhan hon

(1)Yn y Rhan hon—

(2)Yn y Rhan hon ystyr “ymchwiliad archaeolegol” yw unrhyw ymchwiliad o dir, o wrthrychau neu o ddeunydd arall at ddiben cael a chofnodi unrhyw wybodaeth o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol ac mae’n cynnwys, yn achos ymchwiliad archaeolegol o dir—

(a)unrhyw ymchwiliad at ddiben darganfod a datgelu a (phan fo’n briodol) adennill a symud ymaith unrhyw wrthrychau neu unrhyw ddeunydd arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol yn y tir, arno neu odano, a

(b)archwilio, profi, trin, cofnodi a diogelu unrhyw wrthrychau o’r fath neu unrhyw ddeunydd o’r fath a ddarganfyddir yng nghwrs unrhyw gloddiadau neu unrhyw arolygiadau a gynhelir at ddibenion unrhyw ymchwiliad o’r fath.

(3)Yn y Rhan hon ystyr “archwiliad archaeolegol”, mewn perthynas â thir, yw unrhyw archwiliad neu unrhyw arolygiad o’r tir (gan gynnwys adeiladau neu strwythurau eraill ar y tir) at ddiben cael a chofnodi unrhyw wybodaeth o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

(4)Yn y Rhan hon (ac eithrio ym Mhennod 4) mae cyfeiriadau at dir sy’n gysylltiedig â heneb (neu at dir cysylltiedig) i’w dehongli yn unol ag adran 49(9).

(5)Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at heneb, mewn perthynas â chaffael neu drosglwyddo unrhyw heneb (pa un ai o dan y Rhan hon neu fel arall), yn cynnwys unrhyw fuddiant yn yr heneb neu hawl drosti.

(6)Yn y Rhan hon ystyr “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” yw—

(a)unrhyw heneb gofrestredig, a

(b)unrhyw heneb arall sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod o ddiddordeb i’r cyhoedd oherwydd y diddordeb hanesyddol, pensaernïol, traddodiadol, artistig neu archaeolegol sy’n gysylltiedig â hi.

(7)Ond nid yw’r cyfeiriad at heneb yn is-adran (6)(b) yn cynnwys heneb yn, ar neu o dan wely’r môr islaw’r marc distyll.