xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD

Gwarcheidiaeth henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

45Pŵer i osod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig o dan warcheidiaeth

(1)Caiff person sydd â buddiant cymhwysol mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gyda chytundeb Gweinidogion Cymru, eu penodi drwy weithred yn warcheidwaid yr heneb.

(2)Caiff person sydd â buddiant cymhwysol mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gyda chytundeb unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal, benodi’r awdurdod drwy weithred yn warcheidwad yr heneb.

(3)Ni chaiff person nad yw’n feddiannydd heneb sefydlu gwarcheidiaeth yr heneb o dan yr adran hon oni bai bod y meddiannydd hefyd yn barti i’r weithred.

(4)Caiff unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb fod yn barti i’r weithred yn ogystal â’r person sy’n sefydlu gwarcheidiaeth yr heneb a (phan nad y person hwnnw yw’r meddiannydd) y meddiannydd.

(5)Mae’r buddiannau a ganlyn mewn heneb yn fuddiannau cymhwysol at ddibenion yr adran hon—

(a)ystad rydd-ddaliadol;

(b)ystad lesddaliadol, neu fuddiant mewn meddiant—

(i)sydd ag o leiaf 45 o flynyddoedd yn weddill, neu

(ii)y gellir ei hadnewyddu neu ei adnewyddu am o leiaf 45 o flynyddoedd;

(c)buddiant mewn meddiant am oes y person ei hun neu oes person arall, neu am oesau (pa un a ydynt yn cynnwys oes y person ei hun ai peidio), o dan unrhyw ymddiriedolaeth tir bresennol neu yn y dyfodol pan fo’r ystad neu’r buddiant sy’n ddarostyngedig i’r ymddiriedolaeth yn dod o fewn paragraff (a) neu (b).

(6)Yn is-adran (5)(c) mae i “ymddiriedolaeth tir” yr un ystyr ag a roddir i “trust of land” yn Neddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47).

(7)Yn y Bennod hon ystyr “gweithred warcheidiaeth” yw gweithred a gyflawnir o dan is-adran (1) neu (2).

46Darpariaeth atodol ynghylch gweithredoedd gwarcheidiaeth

(1)Mae gweithred warcheidiaeth yn bridiant tir lleol.

(2)Mae pob person y mae ei deitl i heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn deillio o, drwy neu o dan unrhyw berson sydd wedi cyflawni gweithred warcheidiaeth wedi ei rwymo gan y weithred oni bai mai yn rhinwedd unrhyw warediad a wnaed gan y person a gyflawnodd y weithred, cyn dyddiad y weithred honno, y mae teitl y person yn deillio.

(3)Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol ddod yn warcheidwaid adeilad neu strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.

(4)Mae gan unrhyw berson a chanddo unrhyw ystad neu unrhyw fuddiant mewn heneb sydd o dan warcheidiaeth yr un hawl a’r un teitl i’r heneb, a’r un ystad neu’r un buddiant ynddi, ym mhob cyswllt fel pe na bai’r heneb o dan warcheidiaeth; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y Rhan hon.

47Swyddogaethau cyffredinol gwarcheidwaid

(1)Rhaid i warcheidwad heneb ei chynnal a’i chadw, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar gyfer ei chynnal a’i chadw.

(2)Gwarcheidwad yr heneb sy’n ei rheolaethu ac yn ei rheoli’n llawn, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar gyfer ei rheolaethu a’i rheoli’n briodol.

(3)Mae’r pwerau yn is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys pŵer i—

(a)gwneud unrhyw archwiliad o’r heneb;

(b)agor yr heneb neu wneud cloddiadau ohoni at ddiben archwilio neu fel arall;

(c)symud y cyfan neu unrhyw ran o’r heneb ymaith i fan arall at ddibenion ei diogelu.

(4)Mae’r pŵer yn is-adran (2) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol talu tâl mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd o’r heneb.

(5)Caiff gwarcheidwad heneb fynd i safle’r heneb at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o bwerau’r gwarcheidwad o dan yr adran hon mewn perthynas â hi (a chaiff awdurdodi unrhyw berson arall i fynd i’r safle ac arfer y pwerau hynny ar ei ran).

(6)Mae is-adrannau (2) i (4) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y weithred warcheidiaeth.

48Terfynu gwarcheidiaeth

(1)Caiff gwarcheidwad heneb gytuno â’r personau y mae gweithrediad y weithred warcheidiaeth, am y tro, yn cael effaith uniongyrchol arnynt—

(a)i eithrio unrhyw ran o’r heneb o’r warcheidiaeth, neu

(b)i ildio gwarcheidiaeth yr heneb.

(2)Yn absenoldeb cytundeb o’r fath, mae heneb yn parhau i fod o dan warcheidiaeth (oni bai ei bod yn cael ei chaffael gan ei gwarcheidwad) hyd nes bod meddiannydd ar yr heneb sydd â hawlogaeth i derfynu’r warcheidiaeth yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i warcheidwad yr heneb.

(3)Mae gan feddiannydd ar heneb hawlogaeth i derfynu gwarcheidiaeth yr heneb—

(a)os oes gan y meddiannydd fuddiant cymhwysol (o fewn ystyr adran 45(5)) yn yr heneb, a

(b)os nad yw’r meddiannydd wedi ei rwymo gan y weithred warcheidiaeth.

(4)Rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud cytundeb o dan is-adran (1).

(5)Ni chaiff gwarcheidwad heneb wneud cytundeb o dan is-adran (1) oni bai bod y gwarcheidwad wedi ei fodloni, mewn cysylltiad â’r rhan o’r heneb neu’r heneb gyfan (yn ôl y digwydd)—

(a)bod trefniadau boddhaol wedi eu gwneud i sicrhau y caiff ei diogelu ar ôl terfynu’r warcheidiaeth, neu

(b)nad yw’n ymarferol ei diogelu mwyach (pa un ai oherwydd y gost o’i diogelu neu fel arall).

(6)Rhaid i gytundeb o dan is-adran (1) gael ei wneud o dan sêl.

(7)At ddibenion is-adran (1) mae gweithrediad gweithred warcheidiaeth sy’n ymwneud â heneb yn cael effaith uniongyrchol ar berson os yw’r person wedi ei rwymo gan y weithred honno a bod yr heneb yn ei feddiant neu yn ei feddiannaeth.