Gorfodi
9Pŵer mynediad
(1)
Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol fynd i fangre ar unrhyw adeg resymol—
(a)
os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a
(b)
os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.
(2)
Nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre breswyl.
(3)
Ni chaiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol fynd i fangre drwy rym o dan yr adran hon.
(4)
Cyn mynd i fangre o dan yr adran hon rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth ddogfennol o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 7(2).
(5)
At ddibenion yr adran hon ac adrannau 10 ac 11, ystyr “mangre breswyl” yw mangre, neu unrhyw ran o fangre, a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.