Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023

Valid from 30/10/2023

7Camau gorfodi gan awdurdod lleolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff awdurdod lleol—

(a)ymchwilio i gwynion mewn cysylltiad â throseddau o dan adran 5 yr honnir eu bod wedi eu cyflawni yn ei ardal;

(b)dwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau o dan adran 5 a gyflawnwyd yn ei ardal;

(c)cymryd unrhyw gamau eraill gyda’r nod o leihau mynychder troseddau o dan adran 5 yn ei ardal.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at swyddog awdurdodedig awdurdod lleol yn gyfeiriadau at unrhyw berson a awdurdodir gan awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)