Gorfodi
7Camau gorfodi gan awdurdod lleol
(1)
Caiff awdurdod lleol—
(a)
ymchwilio i gwynion mewn cysylltiad â throseddau o dan adran 5 yr honnir eu bod wedi eu cyflawni yn ei ardal;
(b)
dwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau o dan adran 5 a gyflawnwyd yn ei ardal;
(c)
cymryd unrhyw gamau eraill gyda’r nod o leihau mynychder troseddau o dan adran 5 yn ei ardal.
(2)
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at swyddog awdurdodedig awdurdod lleol yn gyfeiriadau at unrhyw berson a awdurdodir gan awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf hon.