Trosedd
5Y drosedd o gyflenwi cynhyrchion plastig untro gwaharddedig
(1)
Mae person o ddisgrifiad y cyfeirir ato yn is-adran (2) (“P”) yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—
(a)
yn cyflenwi (ynglŷn â hynny gweler is-adran (3)) gynnyrch plastig untro gwaharddedig i ddefnyddiwr sydd yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys trefnu i ddanfon y cynnyrch at ddefnyddiwr mewn cyfeiriad yng Nghymru;
(b)
yn cynnig mewn mangre yng Nghymru (ynglŷn â hynny gweler is-adran (4)) cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig i ddefnyddiwr.
(2)
Y disgrifiadau o berson a all gyflawni trosedd o dan yr adran hon yw—
(a)
corff corfforedig (gan gynnwys corff sy’n arfer unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus);
(b)
partneriaeth;
(c)
cymdeithas anghorfforedig;
(d)
person sy’n gweithredu fel unig fasnachwr.
(3)
Mae P yn cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig os yw P, neu unrhyw berson sy’n atebol i P—
(a)
yn gwerthu’r cynnyrch, neu
(b)
yn darparu’r cynnyrch am ddim.
(4)
Mae P yn cynnig cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig os yw P, neu unrhyw berson sy’n atebol i P—
(a)
yn arddangos y cynnyrch yn y fangre, neu
(b)
fel arall yn cadw’r cynnyrch yn y fangre yn y fath fodd fel ei fod yn hygyrch i ddefnyddiwr, neu ar gael i ddefnyddiwr, yn y fangre.
(5)
Mae person yn atebol i P—
(a)
os yw’r person hwnnw—
(i)
yn gyflogai i P,
(ii)
â chontract ar gyfer gwasanaethau gyda P,
(iii)
yn asiant i P, neu
(iv)
fel arall yn ddarostyngedig i reoli, rheolaeth neu oruchwyliaeth P, a
(b)
os yw’r person hwnnw—
(i)
yn gweithredu yng nghwrs busnes, crefft neu broffesiwn P,
(ii)
yn gweithredu mewn perthynas ag arfer swyddogaethau P gan P,
(iii)
yn gweithredu mewn perthynas ag amcanion neu ddibenion P, neu
(iv)
fel arall yn gweithredu o dan reoli, rheolaeth neu oruchwyliaeth P.
(6)
Pan ddangosir bod P wedi trefnu i ddanfon cynnyrch at ddefnyddiwr mewn cyfeiriad yng Nghymru cymerir bod y cynnyrch wedi ei gyflenwi gan P i’r defnyddiwr hwnnw hyd yn oed os (am ba reswm bynnag)—
(a)
danfonwyd y cynnyrch i gyfeiriad gwahanol, neu
(b)
na ddanfonwyd y cynnyrch i unrhyw gyfeiriad hysbys.
(7)
Mewn achos am drosedd o dan is-adran (1), mae’n amddiffyniad i P ddangos bod P wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy ac wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i osgoi cyflawni’r drosedd.
(8)
Cymerir bod P wedi dangos bod P wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy ac wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i osgoi cyflawni’r drosedd—
(a)
os dygir tystiolaeth ddigonol o hyn i godi mater yn ei gylch, a
(b)
os na phrofir i’r gwrthwyneb y tu hwnt i amheuaeth resymol.
(9)
Mewn achos am drosedd o dan is-adran (1), bydd honiad bod cynnyrch yn gynnyrch plastig untro o fath a restrir yng ngholofn 1 o’r Tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen yn cael ei dderbyn fel ei fod wedi ei brofi yn absenoldeb tystiolaeth i’r gwrthwyneb.
(10)
Pan gyflenwir dau neu ragor o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig, neu pan gynigir cyflenwi dau neu ragor o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig, gyda’i gilydd, at ddibenion is-adran (1) mae hyn i’w drin fel un weithred gyflenwi, neu gynnig i gyflenwi, cynnyrch plastig untro gwaharddedig.
(11)
Yn yr adran hon, ystyr “defnyddiwr” yw unigolyn sy’n gweithredu at ddibenion sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf y tu allan i grefft, busnes neu broffesiwn yr unigolyn hwnnw (pa un ai’r unigolyn a brynodd y cynnyrch ai peidio).