Gwaharddiad ar gyflenwi cynhyrchion plastig untro penodol
4Pŵer i ddiwygio: dyletswyddau sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy ac adrodd
(1)
Wrth ystyried pa un ai i arfer y pŵer yn adran 3, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried eu dyletswydd i—
(a)
hybu datblygu cynaliadwy o dan adran 79(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a
(b)
ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).
(2)
Yn yr adroddiad y mae’n ofynnol iddynt ei gyhoeddi o dan adran 79(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rhaid i Weinidogion Cymru nodi gwybodaeth am eu hystyriaeth ynghylch pa un ai i arfer y pŵer yn adran 3 gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’w hystyriaeth ynghylch pa un ai—
(a)
i ychwanegu weips a bagiau bach o saws at golofn 1 o’r Tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen;
(b)
i ddileu esemptiad o golofn 2 o’r Tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen, neu ddiwygio esemptiad yn y golofn honno mewn cysylltiad â chwpanau, cynhwysyddion cludfwyd a chaeadau ar gyfer y cynhyrchion hyn nad ydynt wedi eu gwneud o bolystyren.